Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Archebwch erbyn 12 canol dydd ac anfonwn eich archeb ar y dyddiau hyn.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener.

Moroedd/Dŵr - Morgan Owen

Translation missing: cy.product_price.price.original £5.00 - Translation missing: cy.product_price.price.original £5.00
Translation missing: cy.product_price.price.original
£5.00
£5.00 - £5.00
Translation missing: cy.product_price.price.current £5.00
Nifer
Description

Enillydd Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth mewn Ieithoedd Celtaidd 2019

Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn lansio’r casgliad cyhoeddedig cyntaf o waith y bardd Morgan Owen yng Ngŵyl Arall, Caernarfon.

Mae moroedd/dŵr yn ddilyniant cysyniadol, ac fe ddaw o’r wasg fisoedd yn unig cyn cyhoeddi cyfrol gyntaf Morgan, Bedwen ar y Lloer.

Cerddi am foroedd yw y rhain, ond rhai oriog a chyfnewidiol, fel y profiadau maen nhw’n gyfrwng iddynt. Ble mae tynnu ffiniau rhwng moroedd? Pryd daw dŵr yn fôr? Yn yr un modd, pryd mae presenoldeb yn troi’n berthyn? Pryd daw dadrith yn benllanw? A phryd y daw diwedd yn ddechreuad?

O Ferthyr Tudful y daw Morgan Owen yn wreiddiol, ac mae stamp y lle hwnnw yn gryf ar lawer o waith. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau ‘Awduron wrth eu Gwaith’ Gŵyl y Gelli a ‘Her 100 Cerdd’ Llenyddiaeth Cymru. Bu’n fardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, ac yn Fardd y Mis Radio Cymru yn gynharach eleni.

Dyma adeg da felly i lywio casgliad o’i waith drwy’r wasg, ac mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o fod wedi cael y cyfle i gydweithio â’r bardd yn hyn o beth. Comisiynwyd yr artist Timna Cox i greu delweddau yn ymateb i'r cerddi, ac mae'r rhain yn ychwanegu ymhellach at naws y casgliad.

‘Roedd Morgan yn un o’r rhai a gyhoeddodd waith yn rhifyn cyntaf un cylchgrawn Y Stamp, yn ôl yng Ngwanwyn 2017,’ meddai Iestyn Tyne, un o olygyddion y pamffled; ‘mae’n braf meddwl rŵan ein bod ni mewn sefyllfa o allu dwyn pamffled o’i waith i sylw darllenwyr am y tro cyntaf.’

Details

 

Dosbarthu

Anfonwn bob archeb a dderbyniwyd 3 gwaith yr wythnos, ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. 

Sicrhewch eich bod yn archebu erbyn 12 canol dydd.  Fel arall, efallai na fydd eich archeb yn cael ei hanfon tan y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener).  Cysylltwch â ni os oes brys arnoch, byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.

Cynigiwn 'glicio a chasglu' am ddim ar gyfer cwsmeriaid yng Nghroesoswallt ar ddydd Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn

Cynigiwn ddosbarthu economi am ddim ar gyfer archebion yn y DU dros £50

  • Dosbarthu Economi - o £1.99, nod dosbarthu mewn 3-5 diwrnod gwaith, fel arfer Royal Mail 48.
  • Dosbarthu Safonol - o £2.99, nod dosbarthu mewn 1-2 diwrnod gwaith, fel arfer Royal Mail 24.
  • Dosbarthu Cyflym - o £7.99, nod dosbarth ar y diwrnod gwaith nesaf, fel arfer DPD Local / Parcelforce.

I gael manylion pellach, sgroliwch i lawr i'n tudalen 'Dosbarthu'.  Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Adolygiadau