{"product_id":"9781917237215","title":"Chwalfa","description":"\u003ch6\u003eDisgrifiad\u003c\/h6\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Doeddwn i ddim i fod i roi fy enw i mewn.\"\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003eUn ystyr yn unig oedd i'r geiriau, ac edrychodd Edward Ifans yn reddfol tua'r cerdyn ar y silff-ben-tân.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003e\u003cem\u003e\"Does dim Bradwr yn y tŷ hwn,\" meddai'n chwerw wrtho'i hun.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae hi'n droad yr ugeinfed ganrif ac, yn chwarel Llechwedd yng ngogledd-orllewin Cymru, mae'r gweithwyr, ar ôl anghydfod hir â'r perchnogion, wedi mynd ar streic gan obeithio ennill gwell cyflog ac amodau gwaith gwell, a rhoi terfyn ar y system nepotistaidd o \"Gontractwyr\".\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eOnd wrth i'r misoedd fynd heibio heb unrhyw arwydd fod y streic am ddod i ben, caiff y gymuned ei rhwygo'n ddarnau, deulu ar ôl teulu, wrth i'r bradwyr sy'n torri'r streic droi eu cefnau ar eu cydweithwyr a dychwelyd i'r gwaith, tra bo eraill yn gadael i chwilio am fywyd gwell yn y De.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eDyma un o nofelau mawr yr iaith Gymraeg, ac mae'r argraffiad newydd hwn o nofel hanesyddol rymus T. Rowland Hughes yn croniclo effeithiau'r streic fawr yng ngwaith chwarel y Penrhyn ym Methesda rhwng 1900 a 1903.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eGyda rhagymadrodd newydd gan Elin Gwyn.\u003c\/p\u003e\n\u003ch6\u003eManylion\u003c\/h6\u003e","brand":"Melin Bapur","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":56479677120896,"sku":"ISBN9781917237215","price":18.0,"currency_code":"USD","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0215\/1318\/files\/9781917237215.jpg?v=1756480320","url":"https:\/\/www.siopcwlwm.co.uk\/cy\/products\/9781917237215","provider":"Siop Cwlwm","version":"1.0","type":"link"}