{"product_id":"gne-morgan-owen","title":"GNE - Morgan Owen","description":"\u003ch6\u003eDescription\u003c\/h6\u003e\n\u003cp class=\"preFade fadeIn\"\u003e\u003cstrong\u003eY casgliad unigol nesaf o farddoniaeth a gyhoeddir gan griw'r Stamp fydd \u003cem\u003eGne\u003c\/em\u003e, pamffled diweddaraf Morgan Owen.\u003c\/strong\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"preFade fadeIn\"\u003eEr mai enwau arlliwiau sy'n deitlau i gerddi \u003cem\u003eGne\u003c\/em\u003e – a 'gne' ei hunan yn hen air am arlliwiau – nid dim ond cerddi am liwiau anghyfarwydd yw'r rhain.Barddoni am y mannau canol amwys y mae Morgan Owen yn ei gasgliad newydd – yr hyn sydd rhwng pethau eraill pan fo ymylon yn cwrdd a chydgymysgu. Dyma waith sy'n herio'r syniadau rhy gadarn am ble mae pethau yn dechrau ac yn gorffen; ac fel y gall darllenwyr ei ddisgwyl gan Morgan Owen bellach, mae’r ysgrifennu am fyd natur a lle mor gywrain ag erioed. \u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"preFade fadeIn\"\u003eDyma’i drydydd casgliad gyda Chyhoeddiadau'r Stamp, yn dilyn pamffled a chyfrol a ryddhawyd yn 2019; \u003cem\u003emoroedd\/dŵr\u003c\/em\u003e a \u003ca href=\"https:\/\/www.ystamp.cymru\/cyhoeddiadau\/p\/bedwen-ar-y-lloer-morgan-owen\"\u003e\u003cem\u003eBedwen ar y lloer\u003c\/em\u003e\u003c\/a\u003e. \u003cem\u003emoroedd\/dŵr\u003c\/em\u003e oedd enillydd Gwobr Michael Marks am farddoniaeth yn yr ieothoedd Celtaidd y flwyddyn honno. Ers hynny mae wedi rhyddhau pamffled o ysgrifau, \u003cem\u003eYmgloi\u003c\/em\u003e (hunan-gyhoeddiad, 2020) a phamffled o gerddi ochr yn ochr â ffotograffau Catrin Menai, \u003cem\u003eYsgall\u003c\/em\u003e (Gwasg Pelydr, 2021). Mae'n hynod braf ei groesawu'n ôl i stabl Cyhoeddiadau'r Stamp gyda'i waith diweddaraf, fel un o'r beirdd cyntaf un i gyhoeddi yng nghylchgrawn \u003cem\u003eY Stamp\u003c\/em\u003e yn 2017.\u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"preFade fadeIn\"\u003eDaw o Ferthyr Tudful yn wreiddiol, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn fardd ac ysgrifwr toreithiog, ymhlith ei lwyddiannau diweddaraf mae cipio gwobrau'r Llên Meicro a'r Soned yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd. \u003c\/p\u003e\n\u003cp class=\"preFade fadeIn\"\u003eCyfosodir geiriau Morgan yn gelfydd â darluniau dyfrlliw gan Manon Dafydd, yr artist o'r Felinheli a dylunydd cylchgrawn creadigol \u003cem\u003eCodi Pais.\u003c\/em\u003e\u003c\/p\u003e\n\u003ch6\u003eDetails\u003c\/h6\u003e\n\u003cp\u003e \u003c\/p\u003e","brand":"Cyhoeddiadau'r Stamp","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58100651295104,"sku":"ISBN9781068216763","price":7.5,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0215\/1318\/files\/CASGLIAD_CYFLAWN__28Instagram_Post_29.png?v=1778851669","url":"https:\/\/www.siopcwlwm.co.uk\/cy\/products\/gne-morgan-owen","provider":"Siop Cwlwm","version":"1.0","type":"link"}