{"product_id":"sonant","title":"Sonant","description":"\u003cp\u003eBydd albwm cyntaf Sonant, sy’n rhannu’r un enw â’r ddeuawd, yn cael ei ryddhau drwy\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cspan class=\"il\"\u003eI\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cspan class=\"il\"\u003eKA\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003e\u003cspan class=\"il\"\u003eCHING\u003c\/span\u003e\u003cspan\u003e \u003c\/span\u003ear 15\/5\/26.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eMae cerddoriaeth finimalaidd, heddychlon a phur wedi’i chrynhoi yn albwm cyntaf y ddeuawd piano Sonant, sef cydweithrediad rhwng dwy o gerddorion mwyaf sefydledig Cymru: Siân James a Sioned Webb. Mae’r cyfansoddiadau’n gymysgedd o ddarnau cwbl wreiddiol a gweithiau sydd wedi’u hysbrydoli gan alawon gwerin a chlasurol. Mae enwau cyfarwydd fel y band Vrï, Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), a meibion Siân, Mabon a Llywelyn, hefyd yn cyfrannu at sain yr albwm. Yn ei hanfod, fodd bynnag, mae Sonant yn gyfuniad rhyfeddol o sain dau biano.\u003c\/p\u003e\n\u003cp\u003eAr ôl cystadlu yn erbyn ei gilydd yng nghystadleuaeth piano unigol yr oed dan 12, ac yna astudio dan yr Athro William Mathias yn Adran Gerdd Bangor, mae bron yn teimlo fel petai tynged wedi llunio cam nesaf taith Siân a Sioned, wrth iddynt berfformio gyda’i gilydd bellach ac ar fin rhyddhau eu halbwm cyntaf fel deuawd. Mae’r gynulleidfa eisoes wedi cael blas ar sain obeithiol a disglair yr albwm drwy’r senglau Clychau a Pauperem; mae pob un o’r traciau’n falm i’r enaid ac yn gerddoriaeth sy’n maethu pob ysbryd.\u003cbr\u003e\u003ca id=\"m_7271709356547470763English\" name=\"m_7271709356547470763_English\"\u003e\u003c\/a\u003e\u003cbr\u003eCafodd yr albwm ei recordio yn Stiwdio Sain, gyda Aled Hughes yn peiriannu ac yn cyd-gynhyrchu. Tynnwyd holl luniau’r albwm gan Mefus Photography, a Dyfan Williams oedd yn gyfrifol am y dylunio.\u003c\/p\u003e","brand":"Arthur Davies","offers":[{"title":"Default Title","offer_id":58685944562048,"sku":"IKACHING092","price":12.0,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0215\/1318\/files\/673966136_1364460299012220_2486971439600401159_n.png?v=1786549080","url":"https:\/\/www.siopcwlwm.co.uk\/cy\/products\/sonant","provider":"Siop Cwlwm","version":"1.0","type":"link"}