Various Choirs - Sain y Corau

Various Choirs - Sain y Corau

  • £12.98


Casgliad o recordiadau newydd sbon gan gorau cymysg, merched a meibion, yn cynnwys Hogia Llanbobman (Ynys Môn), Lleisiau Mignedd (Dyffryn Nantlle), Côr Crymych a’r Cylch, Côr Eifionydd, Côr Merched Lleisiau’r Cwm (Dyffryn Aman), Côr Dre (Caernarfon), Côr Llanddarog, a Côr Ysgol Theatr Maldwyn.

Mae’r casgliad yn cynnwys trefniannau newydd o ganeuon poblogaidd megis ‘Angor’ (Tudur Huws Jones), ‘Cana dy Gân’ a ‘Mae Cymru’n mynnu byw’ (Dafydd Iwan), a hefyd ganeuon newydd fel ‘Pwy all fesur lled y cariad?’ (Meirion Wyn Jones) a ‘O fy Iesu Bendigedig’ (Catrin Wyn Hughes). Clywir hefyd un o garolau Penri Roberts, Linda Gittins a Derec Williams, ‘Pan ddaeth y Gair yn Gnawd’, yn cael ei chanu gan gôr Ysgol Theatr Maldwyn.

  • Product ID : Sain SCD2742
  • Label: Sain
  • Genre: Choral
  • Format: Album
  • Released: 2015

Track Listing

  1.   Yr Anthem Geltaidd-Hogia Llanbobman
  2.   Tyrd Aros am Funud - Lleisiau Mignedd
  3.   Pwy All Fesur Lled y Cariad? - Côr Crymych a'r Cylch
  4.   Mae Cymru'n Mynnu Byw - Côr Eifionydd
  5.   O Fy Iesu Bendigedig - Côr Merched Lleisiau'r Cwm
  6.   Y Deryn Pur - Côr Dre
  7.   Heddiw yw'n Dyfodol - Côr Llanddarog
  8.   Mae'r Môr yn Faith - Lleisiau Mignedd
  9.   Yma Wyf Finna' i Fod - Côr Dre
  10.   Y Gwrthodedig - Hogia Llanbobman
  11.   Cana dy Gân - Côr Eifionydd
  12.   Angor - Côr Merched Lleisiau'r Cwm
  13.   Pan Ddaeth y Gair yn Gnawd - Ysgol Theatr Maldwyn
  14.   Adre'n Ôl - Côr Dre

We Also Recommend