Elin a Carys - Hela'r Dryw
Elin a Carys - Hela'r Dryw
Gan Elin a Carys
✔ In stock • Ready to dispatch
📦 Carefully packed by our independent Welsh bookshop
🛍 Click & collect available from Siop Cwlwm in Oswestry
Mae EP newydd Elin & Carys yn cynnwys trefniannau newydd ac amgen o ganeuon traddodiadol Cymreig a cherddoriaeth wreiddiol.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Elin & Carys, dwy chwaer o ganolbarth Cymru, wedi bod yn act newydd a chyffrous ar y sin werin Gymreig. Ar ôl ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam y llynedd ac ymddangos ar yr albwm casgliad 'Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin', a ryddhawyd gan Sain yn 2025, daeth rhagor o wahoddiadau i berfformio’n fyw mewn gwyliau fel Green Man a Fire in the Mountain ac i gefnogi artistiaid sefydledig fel Gwilym Bowen Rhys, Al Lewis a Vri. Gyda’u cyfuniad o gerddoriaeth wreiddiol a threfniannau newydd o hen ganeuon gwerin Cymreig, maent yn dod â sain newydd, groesawgar i’r sin gerddoriaeth Gymreig.
Ganwyd y ddwy i deulu cerddorol a’u magu ger Meifod, Maldwyn. Roedd eu tad yn aelod o’r grŵp gwerin chwedlonol Plethyn, a’u mam hefyd yn ddylanwad cerddorol cryf. Mae’r ddwy chwaer yn cofio’n annwyl fod canu gyda’u rhieni yn y car ac yn y gegin, mewn harmoni pedair llais, yn rhan bwysig o’u plentyndod. Er i Carys fynd ymlaen i astudio cerddoriaeth glasurol, gan ganolbwyntio ar y ffliwt, ac i Elin astudio Celfyddyd Gain, dychwelodd y ddwy at eu cariad cyntaf, cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Gyda’i gilydd maent yn chwarae amrywiaeth o offerynnau, gan gynnwys y gitâr, banjo, ffliwt, chwibanau ac acordion, pob offeryn yn plethu’n naturiol rhwng eu lleisiau cytûn. Mae straeon a geiriau’r caneuon yn hollbwysig i’r ddwy, ac mae eu cerddoriaeth wreiddiol yn gwreiddio’n ddwfn yn eu hardal enedigol, Maldwyn, gyda natur a’r dirwedd yn ysbrydoliaeth gyson.
Mae’r EP yn cynnwys caneuon y maent wedi bod yn eu perfformio dros y flwyddyn ddiwethaf, a chaneuon sydd â chysylltiad dwfn â thraddodiadau gwerin gwledig a lleol, fel trac teitl yr EP, 'Hela'r Dryw', hen gân werin sydd â’i gwreiddiau mewn traddodiad Celtaidd hynafol. Roedd hela’r dryw yn arferiad canol gaeaf, a daeth y gân yn gatalydd i’r ddwy chwaer gysylltu’n ddyfnach â lle, hanes a’u cymuned leol ym Maldwyn. Byddai’r ‘hogiau dryw’ yn hela dryw a’i gario o dŷ i dŷ, gan ganu a chwarae cerddoriaeth wrth ddymuno pob lwc i bawb yn y gymdogaeth yn gyfnewid am fwyd a diod. Mae 'Y Gog Lwydlas' yn un o nifer o ganeuon yn y traddodiad Cymreig sy’n dathlu ymddangosiad y gog yn y gwanwyn. Mae’r fersiwn hon, gyda chysylltiadau offerynnol cynnil rhwng y penillion, yn sefyll allan fel amrywiad arall eto ar y corff hwn o ganeuon am y gog. Mae 'Cariad Cyntaf' yn gân serch draddodiadol Gymreig annwyl a theimladwy, yn llawn cwestiynau heb ateb. Mae’r trac olaf, 'Dod Nôl at fy Nghoed', yn deyrnged i’r teimlad o fod gartref, i’r cysylltiad â natur a’r egni arbennig sydd mewn coetiroedd, ac i’r ffordd y gall hyn wneud i ni i gyd deimlo’n sefydlog a diogel. Mae naws fyrfyfyr y trac hwn yn ein hatgoffa o berfformiadau byw Elin a Carys, a’u chwarae’n cydblethu’n ddwfn â’i gilydd.
"Mae’r holl broses o’r hyn rydyn ni’n ei wneud fel Elin a Carys yn teimlo fel dod adref", meddai’r chwiorydd, "...mae chwarae cerddoriaeth werin Gymreig gyda’n gilydd yn teimlo fel ein bod ni wedi dod o hyd i rywbeth yr oeddem ni wastad i fod i ddychwelyd ato."
Gyda’r cerddorion gwadd Freddie Willetts ar y bas dwbl, y bodhrán, y gitâr drydan a’r chwibanau, Awen Blandford ar y sielo, Gwilym Bowen Rhys ar y ffidil a’r fiola, ac wedi’i gynhyrchu gan Aled Wyn Hughes a’i recordio yn Stiwdio Sain, mae’r EP hwn yn gyfraniad eofn a ffres i’r sin gerddoriaeth Gymreig. Mae’n EP sy’n llawn naws amgen, ond sydd ar yr un pryd yn swnio mor gysurus a chartrefol.
📦 Fel arfer, caiff archebion eu hanfon o fewn 1–3 diwrnod gwaith.
💿 Mae CDs ar gael tra bo’r stoc yn para, ond gallant fod yn anghyraeddadwy weithiau heb rybudd.
🛍 Mae gwasanaeth clicio a chasglu ar gael o Siop Cwlwm yn Croesoswallt.
❤️ Caiff pob archeb ei phacio’n ofalus gan ein siop lyfrau annibynnol Gymreig.