Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Archebwch erbyn 12 canol dydd ac anfonwn eich archeb ar y dyddiau hyn.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener.

Dychweliadau

Mae gennym bolisi dychweliadau 30-diwrnod, sy'n golygu bod gennych 30 diwrnod ar ôl derbyn eich eitem i ofyn am ddychweliad.

I fod yn gymwys ar gyfer dychweliad, mae'n rhaid i'ch eitem fod yn yr un cyflwr ag y gwnaethoch ei derbyn, heb ei gwisgo na'i defnyddio, efo tagiau, ac yn ei deunydd pecynnu gwreiddiol. Bydd arnoch angen y dderbynneb neu brawf o archeb hefyd.

I ddechrau dychweliad, gallwch gysylltu â ni trwy post@siopcwlwm.co.uk. Os derbynnir eich dychweliad, byddwn yn anfon label postio dychweliad atoch, yn ogystal â chyfarwyddiadau sut i anfon eich pecyn ac i le. Ni fyddwn yn derbyn eitemau a anfonir yn ôl atom heb ofyn am ddychweliad yn gyntaf.

Gallwch bob amser gysylltu â ni ag unrhyw gwestiwn am ddychweliadau trwy post@siopcwlwm.co.uk.

Eitemau wedi malu a phroblemau
Gwiriwch eich archeb ar ôl ei derbyn a chysylltwch â ni ar unwaith os bydd yr eitem yn ddiffygiol, wedi malu neu os byddwch wedi derbyn yr eitem anghywir, er mwyn i ni werthuso'r mater a'i wneud yn iawn.

Eithriadau / eitemau ni ellir eu dychwelyd
Ni ellir dychwelyd rhai mathau o eitemau, fel nwyddau darfodus (fel bwyd, blodau neu blanhigion), cynhyrchion pwrpasol (fel archebion arbennig neu eitemau wedi personoli), a nwyddau gofal personol (fel cynhyrchion harddwch). Hefyd nid ydym yn derbyn dychweliadau ar gyfer deunyddiau peryglus, nwyon neu hylifau fflamadwy. Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu bryderon ynglŷn â'ch eitem benodol.

Yn anffodus, ni allwn dderbyn dychweliadau ar gyfer eitemau sêl neu gardiau rhodd.

Cyfnewid
Y ffordd gyflymaf i sicrhau y cewch yr hyn y dymunwch yw dychwelyd yr eitem sydd gennych, ac ar ôl i'ch dychweliad gael ei dderbyn, gwneud archeb ar wahân ar gyfer yr eitem newydd.

Ad-daliadau
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn wedi derbyn a gwirio eich eitem a ddychwelwyd, ac yn rhoi gwybod i chi a gafodd yr ad-daliad ei gymeradwyo ai peidio. Os caiff ei gymeradwyo, cewch ad-daliad awtomatig ar eich dull talu gwreiddiol. Cofiwch y gall gymryd ychydig amser i'ch banc neu gwmni cerdyn credyd brosesu a phostio'r ad-daliad hefyd.