Ysgolion, Grwpiau a Chymorth Addysgol

Rydym yn gweithio gydag ysgolion, cylchoedd meithrin, grwpiau o ddysgwyr, llyfrgelloedd a sefydliadau ar draws Cymru a thu hwnt, i helpu pobl ddarganfod llyfrau, adnoddau ac anrhegion Cymraeg mewn ffyrdd croesawgar ac ymarferol.

Yn meddu ar brofiad ar draws dysgu Cymraeg, llyfrau i blant ac adnoddau addysgol, rydym bob amser yn hapus i'ch helpu i ddod o hyd i'r llyfrau cywir ar gyfer eich dysgwyr a'ch cymuned.

Arbenigedd addysgol

Cefnogaeth ar gyfer dysgwyr o gyn-ysgol i oedolion sy'n dysgu Cymraeg.

Dosbarthu am ddim a gostyngedig

Ar gael i lawer o ysgolion a sefydliadau.

Taliadau trwy anfoneb

Byddwn yn gweithio'n rheolaidd ag ysgolion ac adrannau cyllid.

Digwyddiadau a ffeiriau llyfrau

Ymweliadau gan awduron, ffeiriau, rhestrau dymuniadau a digwyddiadau mewn ysgolion.

Mae gan ddau draean o'n tîm gefndiroedd ym myd addysg, gan gynnwys rolau addysgu a chymorth yn y dosbarth. Mae'r profiad hwn yn ein helpu i argymell adnoddau a llyfrau Cymraeg ar gyfer dysgwyr o wahanol oedrannau, cyfnodau a diddordebau.

Rydym yn cefnogi:

  • Ysgolion a cholegau
  • Cylchoedd meithrin a lleoliadau cyn-ysgol
  • Dysgwyr Cymraeg
  • Grwpiau cymunedol
  • Llyfrgelloedd a sefydliadau

Hefyd, mae gennym brofiad o gefnogi ysgolion ag adnoddau Cynorthwy-ydd Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA) a llyfrau sy'n canolbwyntio ar les.

Mae'r pynciau'n cynnwys:

  • Sgiliau cymdeithasol
  • Profedigaeth
  • Cyfeillgarwch
  • Hunan-barch
  • Rheoli dicter
  • Storïau therapiwtig
  • Sefyllfaoedd go iawn

Os oes angen help arnoch yn dewis llyfrau neu adnoddau addas, rydym bob amser yn hapus i roi cyngor.

Ein nod yw dosbarthu archebion yn gyflym ac effeithlon gan ddefnyddio gwasanaethau dosbarthu cymeradwy gan gynnwys y Post Brenhinol, Parcelforce a DPD.

Gan ddibynnu ar eich lleoliad a maint eich archeb, efallai y bydd dosbarthu am ddim neu ddosbarthu am bris gostyngedig ar gael ar gyfer ysgolion a sefydliadau addysgol.

Mae llawer o archebion addysgol hefyd yn gymwys ar gyfer disgownt 10%.

Cysylltwch â ni cyn archebu er mwyn gallu trafod yr opsiynau gorau i'ch sefydliad.

Rydym yn gweithio'n rheolaidd ag ysgolion, awdurdodau lleol a sefydliadau, ac rydym yn gyfarwydd iawn â gweithdrefnau caffael addysgol.

Gallwn:

  • Drefnu taliadau trwy anfoneb
  • Gweithio gydag adrannau cyllid
  • Diwygio prosesau archebu i fod yn addas i'ch sefydliad
  • Derbyn taliad trwy BACS, cerdyn, siec, PayPal a dulliau eraill

Fel arfer bydd anfonebau yn daladwy o fewn 30 i ddyddiad dosbarthu'r archeb.

Rydym wrth ein bodd yn cefnogi ysgolion a sefydliadau trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n ymwneud â llyfrau.

Gallwn helpu â:

  • Ffeiriau llyfrau mewn ysgolion
  • Ymweliadau gan awduron
  • Diwrnod y Llyfr
  • Digwyddiadau i ddysgwyr Cymraeg
  • Ymweliadau grŵp â Siop Cwlwm

Ar gyfer rhai digwyddiadau, gallwn ddarparu comisiwn fel credyd i'w wario yn Siop Cwlwm.

Hefyd mae croeso i grwpiau ymweld â'n siop a gweithio â ni i ddewis llyfrau ac adnoddau yn bersonol.

Gallwn helpu â:

  • Gwobrau ysgol
  • Gwobrau eisteddfod
  • Anrhegion Nadolig
  • Gwobrau diwedd y tymor

Mae gennym amrywiaeth eang o anrhegion a llyfrau Cymraeg fforddiaday, gan gynnwys llawer o lyfrau am lai na £5.

Mae cardiau rhodd a tocynnau llyfr ar gael hefyd.

Mae croeso i sefydliadau addysgol ymuno â Chlwb Cwlwm, ein cynllun teyrngarwch.

Bydd aelodau'n cael un pwynt am bob £1 sy'n cael ei gwario ar-lein neu yn y siop, sy'n rhoi 5% yn ôl ar wariant dros amser.

Gallwn helpu grwpiau a sefydliadau i greu rhestrau dymuniadau personol o lyfrau ac adnoddau.

Yna gall rhieni, neiniau a theidiau, a chefnogwyr brynu'r eitemau:

  • ar-lein
  • yn y siop
  • dros y ffôn

Rydym hefyd yn cefnogaeth cynlluniau rhoddion, sy'n caniatau i bobl roi arian tuag at restrau dymuniadau mewn symiau syml fel £5 neu £10.

Fel bonws ychwanegol, bydd Siop Cwlwm yn ychwanegu 10% at gyfanswm y rhoddion.

Rydym yn falch i gynnig ffeiriau llyfrau Cymraeg i ysgolion a sefydliadau, gan ddarparu dewis amgen croesawgar i gynlluniau ffair lyfrau cenedlaethol mwy.

Mae fformat ein ffeiriau yn debyg i rai Scholastic, ond ceir ffocws arbenigol ar lyfrau Cymraeg a dwyieithog, dysgwyr Cymraeg, a llyfrau sy'n adlewyrchu diwylliant a hunaniaeth Cymreig.

Gallwn ddiwygio ein ffeiriau i fod yn addas ar gyfer:

  • Ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • Ysgolion cyfrwng Saesneg
  • Lleoliadau â dysgwyr
  • Cylchoedd meithrin a meithrinfeydd
  • Digwyddiadau a sefydliadau cymunedol

Gall ein ffeiriau gynnwys:

  • Children’s books
  • Welsh learner resources
  • Bilingual books
  • Gifts and stationery
  • Seasonal and themed selections

To help support school budgets, we can provide commission as credit to spend with Siop Cwlwm, based on sales during the event.

We aim to make Welsh books visible, exciting and accessible for children, families and learners, while creating a friendly and supportive experience for schools and organisations.

Byddem wrth ein bodd yn helpu

Whether you are building a Welsh library, supporting learners, organising a school event, or simply looking for the right books for your group, we are always happy to help.

We understand that every school, setting and organisation is different, and we’re always happy to discuss tailored recommendations, ordering support and ideas.

Please feel free to contact us to talk through your needs — in Welsh or English.

Cysylltwch â ni