Ynglŷn â Siop Cwlwm

📚 Anrhegion a llyfrau Cymraeg

Ar gyfer darllenwyr, dysgwyr, teuluoedd a chwsmeriaid chwilfrydig.

🗣 Dwyieithog a chroesawgar

Gallwch siopa yn Gymraeg neu Saesneg.

📍 Yng Nghroesoswallt

Siop Gymraeg y tu hwnt i Gymru.

❤️ Busnes teuluol

Linda a Lowri Roberts sylfaenodd y siop yn 2010.

Cafodd Siop Cwlwm ei sylfaenu ym mis Gorffennaf 2010 gan y tîm mam a merch Linda a Lowri Roberts, â nod syml ond grymus: sicrhau bod llyfrau Cymraeg a diwylliant Cymreig yn hygyrch, yn groesawgar ac yn weladwy - ble bynnag mae pobl yn byw.

O'r dechrau, mae Siop Cwlwm wedi gwneud mwy na gwerthu eitemau yn unig. Mae'n ymwneud â chysylltiad — cysylltu pobl â'r Gymraeg, â storïau Cymreig, ac â'r hyder i archwilio diwylliant Cymreig p'un a ydynt yn siaradwyr rhugl, yn dysgu neu'n chwilfrydig.

Rydym yn falch i fod yn siop lyfrau Cymraeg annibynnol, hollol ddwyieithog, sy'n croesawu cwsmeriaid yn Gymraeg a Saesneg.

Am lawer o flynyddoedd, bu Siop Cwlwm yn masnachu o Farchnad Dan Do Croesoswallt, sydd wedi ennill gwobrau (Powis Hall). Fis Hydref 2022, gwnaethom symud i'n cartref presennol yn 33 Stryd y Beili, Croesoswallt, lle rydym yn parhau i redeg ein siop 'go iawn' a'n siop ar-lein.

Yn aml disgrifir Siop Cwlwm fel yr unig siop Gymraeg y tu allan i Gymru, ac mae'r lleoliad unigryw hwnnw'n siapio popeth a wnawn.

Bob dydd byddwn yn gweithio â:

  • Siaradwyr Cymraeg sy'n byw y tu allan i Gymru
  • Oedolion sy'n dysgu Cymraeg
  • Teuluoedd sy'n magu plant yn ddwyieithog
  • Grwpiau cymunedol ac ysgolion
  • Cwsmeriaid sy'n darganfod diwylliant Cymreig am y tro cyntaf

Mae ein siop yn bodoli i ddangos bod diwylliant Cymreig yn ymestun y tu hwnt i ffiniau, a bod yr iaith yn perthyn i le bynnag bydd pobl yn dewis ei defnyddio.

Rydym yn gwerthu amrywiaeth eang, a ddetholwyd yn ofalus, o:

  • Lyfrau Cymraeg a dwyieithog ar gyfer pob oedran
  • Adnoddau sy'n addas i ddysgwyr
  • Llyfrau i blant ac adnoddau addysgol
  • Cardiau, anrhegion, nwyddau tŷ a dillad Cymraeg
  • Anrhegion meddylgar heb fod angen sgiliau Cymraeg

Rydym yn gwerthu miloedd o lyfrau Cymraeg, gan gynnwys:

  • Llyfrau mewn stoc sy'n barod i'w hanfon
  • Rhagarchebion ar gyfer llyfrau sydd ar ddod
  • Llyfrau a archebir yn arbennig ar gyfer cwsmeriaid

Mae hyn yn caniatau i ni gefnogi cyhoeddiadau newydd Cymraeg a llyfrau hŷn sy'n gallu bod yn anodd i ddod o hyd iddynt.

Ein nod yw bod yn siop lle mae pobl yn teimlo'n ddiogel i bori, gofyn cwestiynau ac archwilio ar eu cyflymder eu hunain.

Mae croesawu dysgwyr yn rhan hanfodol o hunaniaeth Siop Cwlwm

Mae llawer o'n cwsmeriaid yn oedolion sy'n dysgu Cymraeg am y tro cyntaf, rhieni sy'n cefnogi plant, neu'n prynu anrhegion on heb siarad Cymreag eu hunain.

Rydym yn falch i helpu pobl i ddod o hyd i:

  • Lyfrau cyntaf Cymraeg da
  • Deunydd darllen sy'n addas i ddysgwyr
  • Llyfrau addas i blant
  • Anrhegion ystyrlon nad ydynt yn teimlo'n frawychus

Nid yw “Dim Cymraeg? Dim problem” yn slogan i ni — dyma'r ffordd byddwn ni'n gweithio.

Mae Siop Cwlwm yn falch i gefnogi'r gymuned Gymraeg mewn ffyrdd ymarferol, bob dydd.

Byddwn:

  • Yn rhedeg “Siop Siarad” bob mis ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg
  • Yn trefnu digwyddiadau ac ymweliadau gan awduron
  • Yn gweithio ag ysgolion a chylchoedd meithrin
  • Yn cyflenwi deunyddiau addysgol a llyfrau Cymraeg a dwyieithog
  • Yn cynnig gostyngiadau a dosbarthu am ddim i sefydliadau addysgol
  • Yn rhoi anerchiadau a chyflwyniadau i sefydliadau a grwpiau cymuned

Rydym hefyd wedi helpu i sefydlu Cylch Ti a Fi ar gyfer teuluoedd lleol, sy'n adlewyrchu ein cred bod y Gymraeg yn ffynnu lle mae'n weladwy, yn cael ei rhannu ac yn cael ei chefnogi mewn bywyd bob dydd.

Cafodd Siop Cwlwm ei sylfaenu gan Linda a Lowri Roberts, ac mae teulu'n parhau i fod wrth galon y busnes.

Fis Ionawr 2023, bu farw Linda. Roedd hi hapusaf yn gwasanaethu cwsmeriaid â gwên - yn enwedig teuluoedd â babanod ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg — ac roedd hi'n ofalus iawn wrth greu a chynnal ein stoc ar y wefan.

Mae ei chynhesrwydd, ei hanogaeth a'i chred ym mhwysigrwydd diwylliant Cymreig yn parhau i lunio sut mae Siop Cwlwm yn gweithredu heddiw.

Mae Lowri'n parhau i redeg Siop Cwlwm ochr yn ochr â thîm bach ymroddedig gan ddwyn ynghyd gwerthu llyfrau, arbenigedd y Gymraeg a chefnogaeth gymunedol.

Mae nifer fach o egwyddorion syml yn arwain yr hyn a wnawn:

  • Dylai'r Gymraeg deimlo'n hygyrch, nid yn fygythiol
  • Dylai llyfrau gael eu dethol yn dda, nid bod yn llethol
  • Dylai cwsmeriaid deimlo bod croeso iddynt bori a gofyn cwestiynau
  • Mae gwneuthurwyr, llenorion a chyhoeddwyr annibynnol yn haeddu cefnogaeth
  • Bydd diwylliant Cymreig yn ffynnu lle caiff ei rannu, nid ei gyfyngu

Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn clywed am grefftwyr, cynhyrchwyr, dylunwyr a llyfrau newydd, yn enwedig y rheiny sy'n gweithio'n lleol neu'n annibynnol.

Share details about your shipping policies, item returns, or customer service.

Gallwch ddod o hyd i ni yn:

Siop Cwlwm
33 Stryd y Beili
Croesoswallt
SY11 1PX

Oriau Agor

Dydd Llun — 9.30am–5.00pm
Dydd Mercher — 9.30am–5.00pm
Dydd Gwener — 9.30am–5.00pm
Dydd Sadwrn — 10.00am-4.00pm

Mae ein siop ar-lein ar agor bob amser.

Rydym yn fusnes hollol ddwyieithog, ac mae croeso mawr i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu'n Saesneg.

Cewch groeso cynnes bob amser

P'un a ydych chi'n rhugl yn y Gymraeg, yn dysgu'r iaith am y tro cyntaf, yn prynu anrheg, neu'n chwilfrydig am ddiwylliant Cymreig, byddwn bob amser yn hapus i'ch helpu.