RT Dixieband - Gwena
RT Dixieband - Gwena
✔ In stock • Ready to dispatch
📦 Carefully packed and dispatched from our independent Welsh bookshop
🛍 Click & collect available from Siop Cwlwm in Oswestry
Disgrifiad
Hen ffefrynnau – arddull jazz
Dyma albwm cyntaf The RT Dixieband, a ffurfiwyd yn ôl yn 2013 gan y clarinetydd a’r canwr Rhys Taylor. Pan oedd Rhys yn ddim ond tair oed clywodd gerddoriaeth jazz fyw am y tro cyntaf, yn nhafarn y Cŵps yn Aberystwyth, gan y ‘Coopers Jazz Band’, yr oedd ei dad, Mike, yn chwarae banjo ynddi. Ar ôl breuddwydio am ffurfio ei fand jazz ei hun ers blynyddoedd, mentrodd ffurfio’r band ac ers 2013 maent wedi perfformio ym mhob cwr o Gymru mewn gwyliau fel Tafwyl, Gŵyl Nôl a ‘Mla’n, Tregaroc, yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y radio a’r teledu ac mewn priodasau a swyddogaethau a digwyddiadau eraill. Uchafbwynt hyd yma mae’n debyg oedd Gŵyl Jazz Aberhonddu yn 2018.
Ar ôl cyfnod cythryblus i bawb, yn 2021, penderfynodd Rhys ddod â holl aelodau’r band ynghyd eto i berfformio a recordio eu halbwm cyntaf. Mae’r band yn cynnwys Rhys ar y clarinet a’r lleisiau, Gethin Liddington ar y trwmped, Gareth Roberts ar y trombôn, Nigel Hart ar y piano, Paul Hillman ar y bas dwbl a Paul Shepherd ar y drymiau, a daethant i gyd ynghyd yn Acapela Studio, Pentyrch, i recordio trefniannau Rhys o ganeuon a cherddoriaeth Gymraeg a rhyngwladol adnabyddus wedi’u troi’n jazz. Mae clasuron fel ‘Panama’, ‘Sweet Georgia Brown’ a ‘Stranger on the Shore’ ochr yn ochr â chân wreiddiol, sy’n rhoi ei theitl i’r albwm, ‘Gwena’, a threfniannau newydd sbon, heintus o ffefrynnau Cymraeg fel ‘Moliannwn’ a’r sianti môr ‘Rownd yr Horn’.
Mae Rhys yn cysegru’r albwm hwn, fel teyrnged, i holl gerddorion Cymru, gyda diolch arbennig i Gethin, Gareth, Nigel, Paul a Paul
Rhestr Traciau
1 MOLIANNWN
2 LAWR AR LAN Y MOR
3 PANAMA
4 GWENA
5 I WANNA BE LIKE YOU
6 TY AR Y MYNYDD
7 STRANGER ON THE SHORE
8 ROWND YR HORN
9 SWEET GEORGIA BROWN
10 THE SAINTS
Rydym yn pacio ac yn anfon rhoddion yn ofalus o’n siop lyfrau Gymraeg annibynnol yn Croesoswallt.
Mae llawer o roddion yn barod i’w hanfon ar unwaith, ond gall rhai eitemau fod dros dro ddim ar gael o bryd i’w gilydd.
Mae gwasanaeth clicio a chasglu hefyd ar gael o Siop Cwlwm.