Yn D’oed a D’amser’ – Rhys Meirion

£6.99
Yn D’oed a D’amser’ – Rhys Meirion

Yn D’oed a D’amser’ – Rhys Meirion

£6.99

✔ In stock • Ready to dispatch

📦 Carefully packed and dispatched from our independent Welsh bookshop

🛍 Click & collect available from Siop Cwlwm in Oswestry

Disgrifiad

Ychydig flynyddoedd yn ôl, teimlai’r cyflwynydd a’r canwr clasurol fod rhywbeth ar goll o’i brofiadau cerddorol. “Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael cymaint o brofiadau gwych hyd yma,” meddai Rhys, “o fod y pennaeth ysgol ieuengaf yn y wlad i gael fy nerbyn ar gwrs Opera yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall heb unrhyw gymwysterau cerddorol blaenorol, ac yna ymuno ag English National Opera fel prif denor a chael ymgymryd â rolau fy mreuddwydion – Rodolfo (La Boheme), Alfredo (La Traviata), Y Dug (Rigoletto), Ernani, Tamino (Magic Flute), Nemorino (L'elesir D'amore) a llawer mwy. Rwyf wedi perfformio fel unawdydd mewn lleoliadau anhygoel fel Carnegie Hall (Efrog Newydd), Tŷ Opera Sydney, y Colosseum, Albert Hall, Royal Festival Hall, Queen Elizabeth Hall, Glyndebourne a Chanolfan y Mileniwm, Caerdydd.” 

Ond teimlai Rhys fod bwlch amlwg a bod rhywbeth arall yr oedd angen iddo ei gyflawni. Gan gymryd ysbrydoliaeth o sgwrs a gafodd gyda Lleuwen Steffan wrth ffilmio’r gyfres Deuawdau Rhys Meirion yn 2017, penderfynodd Rhys fentro, ac am y tro cyntaf, dechreuodd arbrofi â chyfansoddi ei ganeuon ei hun. Prynodd gitâr acwstig ac ar ôl gwrando ar y gitarydd a’r gantores o’r Eidal, Debora Morgante, yn perfformio ar Canu Gyda Fy Arwr, aeth ati i brynu gitâr drydan, a dechreuodd ddysgu ambell i gord. “Rwyf wedi bod yn gefnogwr ers blynyddoedd lawer o’r gitaryddion blues a roc gwych, yn enwedig Stevie Ray Vaughan, ac wrth gwrs Mike Peters, o The Alarm,” meddai Rhys, “ac erbyn gwanwyn 2022 roeddwn yn gwybod y byddwn yn perfformio gyda Mike ar un o benodau fy nghyfres, Canu Gyda Fy Arwr, felly penderfynais ganolbwyntio o ddifrif ar ddysgu’r gitâr.” Perfformiodd Mike a Rhys y gân Cariad, Gobaith a Nerth gyda’i gilydd a rhyddhau’r gân fel sengl elusennol, gyda Rhys yn arddangos ei sgiliau newydd ar y gitâr drydan.      

Erbyn Awst 2023 roedd Rhys wedi troi ei garej yn stiwdio recordio, wedi cyfansoddi pum cân wreiddiol ac wedi dechrau recordio, gyda’i wraig, Nia, a’i ferched, Elan ac Erin, a’i fab, Osian, yn canu lleisiau cefndir. Chwaraeodd Rhys y gitâr drydan ac acwstig, a’r bas, ar bob trac. Yna aeth i Stiwdio Sain i roi’r cyffyrddiadau olaf ar y caneuon, ac ychwanegu cyfraniadau gan Osian Huw Williams (drymiau), Aled Wyn Hughes (bas), a Morris Pleasure (piano). Mae Mo Pleasure wedi chwarae ym mand Michael Jackson, a gyda Janet Jackson a Bette Midler. Bu hefyd yn gyfarwyddwr cerddorol i Earth Wind and Fire ers dros 15 mlynedd.  

Mae’r caneuon ar yr EP yn bersonol iawn i Rhys. Dyma ychydig o eiriau am bob cân: 

Da Ni Yna i Chdi (Rydyn ni yno i ti)
Collais fy chwaer, Elen, ym mis Ebrill 2012, a fy mam ym mis Hydref 2015. Roedd colli’r ddwy mor agos at ei gilydd yn anodd. Bu farw’r ddwy’n sydyn ac ni chafwyd cyfle i afael yn eu dwylo, i ddiolch iddynt ac i ddweud wrthynt gymaint yr oeddwn yn eu gwerthfawrogi ac yn eu caru. Yn y gân hon rwy’n troi at fy nhad ac yn dal ei law wrth ddweud wrtho gymaint rwy’n ei garu. Roedd yn arbennig iawn cael fy merched, Elan ac Erin, yn canu gyda mi ar y gân hon. 

Thomas Richards
Y bardd enwog Thomas Richards oedd fy hen daid. Enillodd gystadleuaeth yr Englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1948, gyda Y Ci Defaid, ac yn Llangefni yn 1957, gyda Yr Ysgyfarnog. Wnes i erioed gwrdd ag ef, ond roedd fy mam a’m nain yn sôn amdano’n gyson, ac rwyf wastad wedi cael darlun byw ohono ac wedi gwerthfawrogi ei ddawn, ac felly wastad wedi teimlo cysylltiad cryf ag ef.  

Ti’m yn Byw er eu Mwyn (Dydych chi ddim yn byw er eu mwyn nhw)
Un o’r pethau rwy’n eu casáu yw rhagfarn. Mae’n nodwedd mor negyddol a gall fod yn bresennol mewn cymunedau yn ogystal ag unigolion. Mae pobl yn aml yn cwyno, yn gwawdio ac yn dirmygu heb unrhyw reswm gwirioneddol, dim ond am fod rhywbeth neu rywun yn cael ei weld yn ‘wahanol’. Mae rhagfarn wedi chwalu breuddwydion ac wedi cyfyngu ar gymdeithas mewn cymaint o ffyrdd. Yn y gân hon rwy’n annog pawb i fod yr hyn y maent am fod, heb boeni am yr hyn y gall pobl ei feddwl neu ei ddweud. Ar ddiwedd y dydd, ‘dydych chi ddim yn byw er eu mwyn nhw’. Braint oedd cael Mo Pleasure i ymuno â mi ar y piano yn y gân blues 12 bar hon.  

Fel Haul a Machlud (Fel yr haul a machlud yr haul) 
Cân serch i’m gwraig, Nia, yw hon. Rydyn ni wedi bod yn briod ers 29 mlynedd ac mae byw gyda’n gilydd dros yr holl flynyddoedd hyn wedi dod â ni’n nes ac yn nes. Fel y dywed y gân, ‘mae pob diwrnod gyda’n gilydd yn werthfawr, ac mae ein heneidiau’n cydblethu’. 

Tra Ti’n Dileu dy Hanas (Tra byddi di’n dileu dy hanes)
Un o’r pethau tristaf i mi yw gweld potensial mawr yn cael ei wastraffu. Yn aml, mae cyfle wedi mynd heibio heb i ni sylweddoli hynny hyd yn oed. Mae ffonau symudol wedi newid ein bywydau’n ddramatig, ac mae gweld pobl wedi’u gludo wrth sgriniau eu ffonau wrth iddynt fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd yn fy mhryderu. Mae’n broblem fyd-eang. Rydyn ni’n anghofio byw ein bywydau! Mae Erin, fy merch, yn ogystal â Nia, fy ngwraig, yn ymuno â mi ar y gân hon. 

Rhestr y Caneuon
  1. DA NI YNA I CHDI
  2. THOMAS RICHARDS
  3. TI'M YN BYW ER EU MWYN 
  4. FEL HAUL A MACHLUD
  5. TRA TI'N DILEU DY HANES

Rydym yn pacio ac yn anfon rhoddion yn ofalus o’n siop lyfrau Gymraeg annibynnol yn Croesoswallt.

Mae llawer o roddion yn barod i’w hanfon ar unwaith, ond gall rhai eitemau fod dros dro ddim ar gael o bryd i’w gilydd.

Mae gwasanaeth clicio a chasglu hefyd ar gael o Siop Cwlwm.

Siop Cwlwm — eich siop lyfrau Gymraeg yn Croesoswallt ac ar-lein