The Truth About Ifan James

$14.00
The Truth About Ifan James

The Truth About Ifan James

Gan Linda Wyn

$14.00

Nofel ddirgelwch gyfoes gan awdur *Ble Aeth Elen Puw?*?

✔ Mewn stoc • Yn barod i’w anfon

📦 Wedi’i bacio'n ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol

🛍 Gallwch glicio a chasglu o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt

Nofel ddirgelwch gyfoes. Bron i flwyddyn ar ôl colli ei gŵr mewn damwain, mae Mari yn dal i deimlo’n isel. Ond mae pethau’n newid pan mae’n cwrdd ag Ifan James. Maen nhw’n dod yn ffrindiau agos, ond nid Mari yw’r unig fenyw y mae Ifan James wedi dechrau perthynas â hi.
Mae Bethan a Helen hefyd wedi syrthio i fagl Ifan James. Cyn hir, mae Ifan yn rhoi ei gynllun ar waith ac yn perswadio’r tair menyw i drosglwyddo symiau mawr o arian i gyfrif Evan A James er mwyn ei helpu gyda’i broblemau ariannol presennol. Ond nid yw’r menywod hyn mor hygoelus ag y mae’n ei gredu.
Pan fydd Mari’n dychwelyd o’r gwaith ac yn dod o hyd i gorff marw Ifan James ar lawr ei gegin, mae’r heddlu’n ei chyhuddo hi. Ond mae’r newyddiadurwraig Sara Price yn benderfynol o fynd at wraidd y mater a darganfod pwy yw’r llofrudd.

Awdur: Linda Wyn
Cyhoeddwr:
Y Lolfa
Nifer y tudalennau:
180
Fformat:
Clawr meddal | Clawr meddal
Maint:
195x130 mm
Iaith:
Cymraeg | Cymraeg
Dyddiad cyhoeddi:

Dosbarth:

  • Ffuglen i Oedolion a Straeon
  • Ffuglen Genre-Trosedd, Dirgelwch a Chyffro

Yn wreiddiol o Rydaman, graddiodd Linda Wyn â gradd meistr yn y Gymraeg o Brifysgol Aberystwyth cyn dilyn gyrfa ym maes Addysg Bellach. Bu’n Bennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai cyn ymddeol yn 2018. Mae bellach yn byw yn Nhreganna yng Nghaerdydd. Dyma ei hail nofel.

Fel arfer caiff archebion eu hanfon o fewn 1–3 diwrnod gwaith.

Efallai y bydd rhai llyfrau'n cael eu harchebu'n arbennig i chi gan gyflenwyr, sy'n gallu cymryd ychydig yn fwy o amser yn achlysurol. Os yw'n debygol y bydd oedi sylweddol, byddwn ni'n cysylltu â chi.

Bydd llyfrau i'w rhag-archebu yn cael eu hanfon unwaith y byddant wedi'u cyhoeddi ac ar gael gan gyflenwyr.

Gallwch glicio a chasglu eich archeb o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt.

Rydym yn pacio'r holl archebion yn ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol, ac yn ceisio anfon archebion cyn gynted â phosibl.