Rydym yn stocio miloedd o lyfrau Cymraeg, gan gynnwys teitlau newydd a llyfrau y gallwn archebu yn arbennig. I gadw pethau'n syml, mae eitemau ar ein gwefan naill ai ar gael i'w hychwanegu at eich basged yn awr, neu'n cael eu cynnig i'w rhag-archebu. Dyma beth mae hyn yn golygu.
Beth yw ystyr “Ychwanegu at y fasged”?
Os yw llyfr yn dangos y neges “Ychwanegu at y fasged”, mae'n golygu ei fod ar silff yn ein siop ac yn barod i'w anfon.
Fel arfer byddwn yn dosbarthu archebion sydd mewn stoc ymhen 1–2 diwrnod gwaith.
Beth yw ystyr “Rhag-archebu”?
Os yw llyfr yn dangos y neges “Rhag-archebu”, mae'n golygu naill ai:
rhoddwyd rhybudd am y llyfr ond nid yw wedi'i gyhoeddi eto, ynteu
mae'r llyfr allan o stoc dros dro a byddwn yn ei archebu yn arbennig i chi oddi wrth ein cyflenwr.
Yn y ddau achos, gallwn archebu fel bo'n arferol, a byddwn yn anfon y llyfr atoch chi cyn gynted ag y bydd yn ein cyrraedd ni.
Lle bo hynny'n bosibl, rydym yn nodi dyddiad cyhoeddi disgwyledig neu wybodaeth ailstocio ar dudalen yr eitem.
Faint o amser bydd fy archeb yn cymryd?
Mae hynny'n dibynnu beth yw cynnwys eich archeb:
Llyfrau sydd ar y silff (“Ychwanegu at y fasged”)
fel arfer yn cael eu dosbarthu ymhen 1–2 diwrnod gwaithLlyfrau i'w rhag-archebu
yn cael eu dosbarthu cyn gynted ag y byddant yn cael eu cyhoeddi neu'n cyrraedd ni gan ein cyflenwr
Oherwydd bod diwydiant cyhoeddi Cymru'n aml yn cynnwys cyhoeddwyr bach, annibynnol, gallu yr amseru hyn amrywio. Byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod llyfrau'n eich cyrraedd cyn gynted â phosibl.
Beth os yw fy archeb yn cynnwys llyfrau sydd ar y silff a llyfrau i'w rhag-archebu?
Os yw'ch archeb yn cynnwys llyfr i'w rag-archebu, byddwn fel arfer yn anfon yr archeb gyfan efo'i gilydd unwaith y bydd popeth yn barod.
Os hoffech i ni anfon eich llyfrau mewn stoc yn gynt, cysylltwch â ni a gwnawn ein gorau i helpu.
A fyddaf yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am fy archeb?
Byddwch.
Byddwn yn anfon neges ebost atoch chi:
pan fydd eich archeb wedi'i gwneud
pan fydd eich archeb wedi'i dosbarthu
Os bydd unrhyw oedi sylweddol â rhag-archeb, byddwn bob amser yn rhoi gwybod i chi.
Beth os bydd dyddiad cyhoeddi neu amcangyfrif dosbarthu yn newid?
Weithiau bydd dyddiadau cyhoeddi neu ddosbarthiadau cyhoeddwyr yn newid, yn enwedig yn achos cyhoeddwyr bach ac annibynnol.
Os bydd unrhyw beth yn newid sy'n effeithio ar eich archeb, byddwn yn cysylltu â chi. Hefyd, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy ebost ar unrhyw adeg i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Nid wyf yn siŵr beth i'w archebu - allwch chi helpu?
Wrth gwrs.
Rydym bob amser yn hapus i gynnig cyfarwyddyd cyfeillgar, yn enwedig os ydych chi'n newydd i'r Gymraeg neu'n prynu anrheg.
Mae croeso mawr i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg.