Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Archebwch erbyn 12 canol dydd ac anfonwn eich archeb ar y dyddiau hyn.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener.

Postio

Anfonwn bob archeb a dderbyniwyd 3 gwaith yr wythnos, ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener. 

Sichewch eich bod yn archebu erbyn 12 canol dydd.  Fel arall, efallai na fydd eich archeb yn cael ei hanfon tan y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener).

----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Os bydd eitem allan o stoc neu wedi'i rhag-archebu, byddwn yn cysylltu â chi ag amser aros disgwyliedig os nad yw'r disgrifiad o'r cynnyrch yn nodi hyn.

O ran llyfrau, fel arfer mae gennym un (neu ddau) gopi mewn stoc ac os bydd cwsmer yn archebu mwy o gopïau na'r hyn sydd gennym mewn stoc (oherwydd ein cyfleuster rhag-archebu) byddwn yn ymdrechu i gael y llyfrau ychwanegol cyn gynted â phosibl.  Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses hon, a allai gymryd hyd at wythnos.

Cysylltwch â ni os oes brys am eich archeb, byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.

Opsiynau Dosbarthu

  • Cynigiwn 'glicio a chasglu' am ddim ar gyfer cwsmeriaid yng Nghroesoswallt ar ddydd Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn
  • Cynigiwn ddosbarthu am ddim ar gyfer archebion yn y DU dros £50

DOSBARTHU YN Y DU

Anfonwn archebion dair gwaith yr wythnos, trwy'r Post Brenhinol neu DPD Local (yn dibynnu ar bwysau archeb).

Dosbarthu Economi (e.e. Royal Mail 48)

Sylwch: Efallai y bydd archebion gwerth uwch yn cael eu huwchraddio i wasanaeth Royal Mail Tracked, am resymau gweithredol.

Archebion £3 a llai

£1.99

Archebion £8 a llai

£2.99

Archebion £50 a llai

£4.99

Archebion dros £50.01

Am ddim!

Dosbarthu Safonol (e.e. Royal Mail 24)

Sylwch: Efallai y bydd archebion gwerth uwch yn cael eu huwchraddio i wasanaeth Royal Mail Tracked, am resymau gweithredol.

Archebion £3 a llai

£2.99

Archebion £8 a llai

£3.99

Archebion £40 a llai

£5.99

Archebion dros £40

Am ddim!

Dosbarthu Cyflym (e.e. DPD Next Day)

Archebion £3 a llai

£7.99

Archebion £8 a llai

£8.99

Archebion £8.01 a mwy

£9.99

Archebwch cyn hanner dydd ar ddydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener a dewiswch Ddosbarthu Cyflym a bydd eich archeb yn cael ei blaenoriaethu a'i hanfon yr un diwrnod gwaith (dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener yn unig) â’r dosbarthwr diwrnod nesaf DPD. 

Sylwch efallai na fydd archebion a wneir ar ddydd Gwener yn cyrraedd tan ddydd Llun ac efallai na fydd archebion a wneir ar ddydd Sadwrn yn cyrraedd tan ddydd Mawrth.

Caiff rhai cynhyrchion eu hanfon yn syth o'n hargraffwyr a byddant fel arfer* yn cael eu hanfon o fewn 7 diwrnod gwaith i wneud eich archeb.

Prynu eitemau fel anrheg

Gallwn anfon eich archeb yn syth at y derbynnydd – teipiwch gyfeiriad dosbarthu gwahanol yn y man talu. Gallwch ychwanegu neges â’r anrheg, gallwch hefyd ofyn i ni lapio eitemau ac rydym yn fwy na pharod i ysgrifennu mewn cardiau cyfarch ar eich rhan. Rhowch wybod i ni yn y blwch nodiadau yn y man talu. Ni fydd unrhyw brisiau ar yr anfoneb pan anfonir archeb yn syth at y derbynnydd.

Eitemau wedi'u personoli a phwrpasol

Os ydych chi'n archebu eitem bwrpasol, cofiwch y bydd eich eitem yn cael ei gwneud cyn iddo gael ei hanfon atoch chi.

Statws archeb ac olrhain

Argymhellwn greu cyfrif â ni fel y gallwch wirio statws eich archeb yn hawdd ac olrhain proses ddosbarthu eich archeb.

DOSBARTHU RHYNGWLADOL

Yn dilyn newidiadau oherwydd Brexit, rydym yn edrych ar opsiynau i sicrhau ein bod yn darparu'r gwasanaeth dosbarthu gorau, a mwyaf cost-effeithlon, i'n holl gwsmeriaid.  Yn y cyfamser, cawsom y cyngor hwn gan y Post Brenhinol: 

*Mae gan bob gwlad eu tollau a'u trethi eu hunain, felly chi sy'n gyfrifol am unrhyw ffioedd a ysgwyddir pan fyddwch yn derbyn eich archeb.*

Sylwch fod ein cyfraddau dosbarthu rhyngwladol wedi'u cyfrifo gan ddefnyddio cyfartaleddau a thybiaethau.  Os hoffech i ni gyfrifo cyfradd dosbarthu gwirioneddol eich archeb ryngwladol, cysylltwch â ni - byddwn yn chwilio'r holl opsiynau dosbarthwr sydd ar gael i sicrhau ein bod yn cynnig y gyfradd ddosbarthu rataf i chi. Yna byddwn yn cysylltu â chi i weld a ddymunwch barhau â'ch archeb. 

Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.