Bwncath - III

£12.98
Bwncath - III

Bwncath - III

£12.98

Temporarily unavailable

Disgrifiad

Mae Sain Records yn falch o gyflwyno albwm newydd hir-ddisgwyliedig Bwncath, 'Bwncath III'. Unwaith eto, mae'r albwm hon yn llawn dop o anthemau dosbarth a baledi torcalonnus, gyda'r sain mor nodweddiadol o arddull apelgar arferol Bwncath ond yn dangos aeddfedrwydd newydd, gan gyffwrdd â chymaint o themâu gwahanol – cariad, breuder bywyd, cyfeillgarwch, unigrwydd a gobaith – ac mae'r naws a'r ysbryd cerddorol yn mynd â ni ar daith o ansicrwydd a hiraeth i gyffro llawen; gyda'i gilydd, mae'n albwm sy'n adlewyrchu bywydau cymaint o wrandawyr y band.

Mae'r 5 mlynedd diwethaf wedi bod yn gyfnod o lwyddiant pellach i'r band ac o berfformio'n ddi-stop. O fewn pythefnos i ryddhau eu hail albwm, 'Bwncath II', yn 2020, cafodd dros 100,000 o ffrydiau ar Spotify. Cafodd y band gydnabyddiaeth y tu hwnt i Gymru hefyd wrth gyrraedd rhif 27 yn Siart Albymau Gwerin Swyddogol y DU a chadw yn y 40 uchaf am ychydig llai na blwyddyn, ochr yn ochr â bandiau fel The Staves a Laura Marling. Erbyn hyn, mae catalog cerddoriaeth Bwncath wedi cael cyfanswm o dros 8 miliwn o ffrydiau ar Spotify yn unig. 

Gyda haf prysur o'n blaenau, bydd cynulleidfaoedd yn heidio i glywed perfformiadau byw o'r caneuon newydd – caneuon a fydd, yn ddiau, yn cipio calonnau'r genedl unwaith eto yn fuan. 

Traciau

01. Dy Feddwl
02. Y Ffordd yn Ôl
03. Castell Ni
04. Aderyn Bach
05. Prydwen
06. Y Gwerinwr
07. Crwydro
08. Dewch Gyfeillion
09. Suddo
10. Cysgod Dy Law

Rydym yn pacio ac yn anfon rhoddion yn ofalus o’n siop lyfrau Gymraeg annibynnol yn Croesoswallt.

Mae llawer o roddion yn barod i’w hanfon ar unwaith, ond gall rhai eitemau fod dros dro ddim ar gael o bryd i’w gilydd.

Mae gwasanaeth clicio a chasglu hefyd ar gael o Siop Cwlwm.

Siop Cwlwm — eich siop lyfrau Gymraeg yn Croesoswallt ac ar-lein