GNE - Morgan Owen

$11.00
GNE - Morgan Owen
GNE - Morgan Owen
GNE - Morgan Owen
GNE - Morgan Owen

GNE - Morgan Owen

Gan Morgan Owen

$11.00

✔ Mewn stoc • Yn barod i’w anfon

📦 Wedi’i bacio'n ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol

🛍 Gallwch glicio a chasglu o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt

Y casgliad unigol nesaf o farddoniaeth i’w gyhoeddi gan griw’r Stamp fydd *Gne*, pamffled diweddaraf Morgan Owen.

Er mai enwau arlliwiau yw teitlau cerddi *Gne* – a bod ‘gne’ ei hun yn hen air am arlliwiau – nid cerddi am liwiau anghyfarwydd yn unig yw’r rhain. Barddoniaeth am y mannau canol amwys sydd yng nghasgliad newydd Morgan Owen – yr hyn sydd rhwng pethau eraill pan fo ymylon yn cwrdd ac yn cydgymysgu. Dyma waith sy’n herio’r syniadau rhy gadarn am ble mae pethau’n dechrau ac yn gorffen; ac, fel y gall darllenwyr ei ddisgwyl gan Morgan Owen erbyn hyn, mae’r ysgrifennu am fyd natur a lle mor gywrain ag erioed.

Dyma’i drydydd casgliad gyda Chyhoeddiadau’r Stamp, yn dilyn pamffled a chyfrol a gyhoeddwyd yn 2019; *moroedd/dŵr* a *Bedwen ar y lloer*. Enillodd *moroedd/dŵr* Wobr Michael Marks am farddoniaeth yn yr ieithoedd Celtaidd y flwyddyn honno. Ers hynny, mae wedi cyhoeddi pamffled o ysgrifau, *Ymgloi* (hunan-gyhoeddiad, 2020), a phamffled o gerddi ochr yn ochr â ffotograffau gan Catrin Menai, *Ysgall* (Gwasg Pelydr, 2021). Mae’n bleser mawr ei groesawu’n ôl i stabl Cyhoeddiadau’r Stamp gyda’i waith diweddaraf, fel un o’r beirdd cyntaf un i gyhoeddi yng nghylchgrawn *Y Stamp* yn 2017.

Brodor o Ferthyr Tudful yw, ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd. Yn fardd ac yn ysgrifwr toreithiog, ymhlith ei lwyddiannau diweddaraf mae cipio gwobrau’r Llên Meicro a’r Soned yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam y llynedd.

Cyfosodir geiriau Morgan yn gelfydd â darluniau dyfrlliw gan Manon Dafydd, yr artist o’r Felinheli a dylunydd y cylchgrawn creadigol *Codi Pais*.

Awdur: Morgan Owen
Cyhoeddwr:
Stamp Announcements
Nifer y tudalennau:

Fformat:
Clawr meddal | Clawr meddal
Maint:

Iaith:
Cymraeg | Cymraeg
Dyddiad cyhoeddi:

Dosbarth:

  • Barddoniaeth

Fel arfer caiff archebion eu hanfon o fewn 1–3 diwrnod gwaith.

Efallai y bydd rhai llyfrau'n cael eu harchebu'n arbennig i chi gan gyflenwyr, sy'n gallu cymryd ychydig yn fwy o amser yn achlysurol. Os yw'n debygol y bydd oedi sylweddol, byddwn ni'n cysylltu â chi.

Bydd llyfrau i'w rhag-archebu yn cael eu hanfon unwaith y byddant wedi'u cyhoeddi ac ar gael gan gyflenwyr.

Gallwch glicio a chasglu eich archeb o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt.

Rydym yn pacio'r holl archebion yn ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol, ac yn ceisio anfon archebion cyn gynted â phosibl.