Menywod Anweledig

£9.99
Menywod Anweledig

Menywod Anweledig

Gan Rebecca Roberts

£9.99

Nofel ddystopaidd wedi'i gosod yn yr Unol Daleithiau yn y dyfodol agos

📅 Rhag-archebu • Cyhoeddir 23 October 2026

Byddwn yn anfon hwn ar y dyddiad cyhoeddi neu ychydig cyn y dyddiad hwn.

📦 Wedi’i bacio'n ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol

🛍 Gallwch glicio a chasglu o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt

A dystopian novel set in the United States in the near future, following young women who have to follow an underground path to demand the right to choose what happens to their own bodies.

Awdur: Rebecca Roberts
Cyhoeddwr:
Gwasg Carreg Gwalch
Nifer y tudalennau:
200
Fformat:
Paperback | Clawr meddal
Maint:
200x 130 mm
Iaith:
Welsh | Cymraeg
Dyddiad cyhoeddi:

Dosbarth:

  • Adult Fiction and Stories (in Welsh)
  • Genre Fiction-Other (in Welsh)

Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.

Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a a enillodd wobr Tir Na n-Og a Llyfr y Flwyddyn. Mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg yBwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.

Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o'i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan wasg Gomer yn 2020. Cyhoeddwyd #Helynt, ei nofel gyntaf i bobl ifanc yn y Gymraeg, hefyd yn 2020, a’r dilyniant, Mwy o Helynt, yn 2023. Cyhoeddwyd Chwerwfelys, dilyniant i Mudferwi, yn 2021, a Curiad Gwag yn 2022. Mae cyfieithiad o Curiad Gwag, Rock on the Road, wedi ei gyhoeddi, a chyhoeddwyd y dilyniant, Diwedd y Gân, yng ngwanwyn 2025.

Fel arfer caiff archebion eu hanfon o fewn 1–3 diwrnod gwaith.

Efallai y bydd rhai llyfrau'n cael eu harchebu'n arbennig i chi gan gyflenwyr, sy'n gallu cymryd ychydig yn fwy o amser yn achlysurol. Os yw'n debygol y bydd oedi sylweddol, byddwn ni'n cysylltu â chi.

Bydd llyfrau i'w rhag-archebu yn cael eu hanfon unwaith y byddant wedi'u cyhoeddi ac ar gael gan gyflenwyr.

Gallwch glicio a chasglu eich archeb o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt.

Rydym yn pacio'r holl archebion yn ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol, ac yn ceisio anfon archebion cyn gynted â phosibl.