Newydd - Celt

£12.98
Newydd - Celt

Newydd - Celt

£12.98

Temporarily unavailable

Disgrifiad

Mae’r grŵp roc Celt yn mwynhau haf prysur o gigs, ac i gyd-fynd â’r dyddiadau byw byddant yn rhyddhau eu halbwm newydd, 'Newydd' yn ddiweddarach y mis hwn. Mae’r albwm yn nodi 35 mlynedd ers record gyntaf y grŵp erioed yn ôl yn 1989, 'Da 'Di'r Hogia', a 15 mlynedd ers eu halbwm diwethaf, 'Cash is King'. 

Mae’r blynyddoedd wedi hedfan heibio, ond mae Celt wedi bod yn brysur yn gigio ac yn rhyddhau cerddoriaeth o hyd. Er bod aelodau’r grŵp wedi newid dros y blynyddoedd, mae dau o’r aelodau gwreiddiol a’i sefydlodd, Steven Bolton a Barry 'Archie' Jones, yn dal yn aelodau craidd. Ymunodd y canwr Martin Beattie yn ystod y blynyddoedd cynnar ac mae yntau’n dal yn rhan bwysig iawn o’r grŵp, gyda’i leisiau harmonïol ef a Steven yn arwain y baledi roc bywiog a deniadol sydd wedi dod yn nodweddiadol o arddull y band. Dyma’r tro cyntaf i Martin a Steven ganu gyda’i gilydd ar recordiad ers EP Celt, 'Telegysyllta', a ryddhawyd ar Sain yn 2001. Cymerodd Archie seibiant o berfformio’n fyw am gyfnod oherwydd ymrwymiadau eraill, ond wrth gamu i mewn yn lle aelod arall o’r band ar gyfer gig untro, cafodd ei ysbrydoli i ailymuno’n llawn amser: "Gwnaeth ymateb y dorf yn y gig godi fy nghalon yn fawr, a chefais fy ysbrydoli i ysgrifennu’r gân 'Modd i Fyw' am yr holl brofiad. Yna es ymlaen i gyfansoddi gweddill caneuon yr albwm." Yn ymuno ag Archie, Steven a Martin ar yr albwm mae Sion Richards (bas), Dion Hughes (drymiau), Sion Bayley a Neil Roberts (gitârs) a Huw Smith (bysellfyrddau), ynghyd â nifer o westeion eraill, gan gynnwys Euron Jones (gitâr pedal steel), Steffan Harri (acordion), John Doyle (gitâr), Edwin Humphreys (sacsoffon), Pwyll ap Siôn (bysellfyrddau) ac Eleri Fôn a Malan Fôn ar leisiau cefndir. 

Fel y sengl a ryddhawyd yn ddiweddar o’r albwm, 'Yr Esgus Perffaith', mae’r caneuon ar yr albwm hefyd yn aros yn driw i sain roc unigryw Gymraeg Celt, ac mae naws haf yn treiddio drwy’r albwm cyfan, gyda’r gitâr 12 tant yn amlwg iawn. Mae llawer o’r caneuon yn deyrngedau i ffrindiau agos y band — ysgrifennwyd 'Milwyr Olaf Maes y Gad' er cof am faswr gwreiddiol y band, Robat Henri Jones, tra ysgrifennwyd y gân 'Requiem' mewn ymateb i glywed y newyddion trist am farwolaeth Les Morrison, y cerddor a chwaraeodd ran mor amlwg yn hanes y band. Mae trefniant arbennig o gân olaf Les, 'I'm Just a Girl', hefyd ar yr albwm. 

Cân am rywun sy’n gorfod newid ei ffordd o fyw a dilyn llwybr newydd a gwell yw 'Newydd Fydd yr Iaith', tra bo 'Tyfu ar Goed' yn sôn am yr holl bobl o ardal Bethesda y mae Archie wedi cwrdd â nhw mewn gwahanol wledydd ledled y byd. Maen nhw ym mhob man!   

Bydd Celt yn perfformio yn y rhan fwyaf o wyliau poblogaidd Cymru yr haf hwn, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Tafwyl, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Môn. Heb os, bydd cynulleidfaoedd wrth eu bodd yn clywed ac yn mwynhau cymaint o ganeuon newydd gan y band poblogaidd hwn o Ddyffryn Ogwen.

Rhestr y Traciau

1 Newydd fydd yr Iaith
2 Ar Ba Sail
3 Sweet Caroline
4 O Mama
5 Modd i Fyw
6 Cadw’r Powdwr yn Sych
7 Yr Esgus Perffaith
8 Tyfu ar Goed
9 Requiem
10 Un Dros y Galon
11 I’m Just a Girl
12 Milwyr ola’ Maes y Gad

Trac ychwanegol

13. Soniodd Neb

Rydym yn pacio ac yn anfon rhoddion yn ofalus o’n siop lyfrau Gymraeg annibynnol yn Croesoswallt.

Mae llawer o roddion yn barod i’w hanfon ar unwaith, ond gall rhai eitemau fod dros dro ddim ar gael o bryd i’w gilydd.

Mae gwasanaeth clicio a chasglu hefyd ar gael o Siop Cwlwm.

Siop Cwlwm — eich siop lyfrau Gymraeg yn Croesoswallt ac ar-lein