Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin

£12.98
Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin

Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin

£12.98

✔ In stock • Ready to dispatch

📦 Carefully packed and dispatched from our independent Welsh bookshop

🛍 Click & collect available from Siop Cwlwm in Oswestry

Disgrifiad

Fel yr ail yn y gyfres 'Stafell Sbâr Sain', prosiect cydweithredol a lansiwyd gan Sain y llynedd, mae'r albwm newydd hwn yn cynnwys 12 trac wedi'u curadu gan Tŷ Gwerin ac yn cynnwys 12 artist blaenllaw ar sîn werin fywiog Cymru heddiw. Mae Sain wrth ei bodd yn cydweithio â Tŷ Gwerin, un o lwyfannau mwyaf nodedig y deng mlynedd diwethaf o ran cefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth werin ac artistiaid. Mae'r albwm yn dathlu llwyddiant Tŷ Gwerin ac yn nodi ymrwymiad Sain i fuddsoddi mewn cefnogi ein diwylliant a'n treftadaeth werin.

Dywed Eisteddfod Genedlaethol Cymru: "Mae'n fraint i ni a Thŷ Gwerin gydweithio â Sain ar brosiect sy'n rhoi llwyfan mor bwerus i amrywiaeth ac amrywioldeb sîn werin Cymru. Mae'r albwm hwn yn cynrychioli popeth mae Tŷ Gwerin yn sefyll drosto - dathlu'r traddodiad, cefnogi artistiaid cyfoes a rhoi llwyfan i amrywiaeth o leisiau o bob cwr o Gymru. Mae'n bleser cydweithio â Sain ar brosiect sy'n dangos bod cerddoriaeth werin heddiw yn fyw ac yn ffynnu."

Cafodd y rhan fwyaf o draciau'r albwm eu recordio yn Stiwdio Sain, Llandwrog, a'u cynhyrchu gan Aled Wyn Hughes, ac maent yn gydbwysedd perffaith rhwng cerddoriaeth gan artistiaid o fri ac actau newydd, addawol. Mae'r deunydd yn gyfuniad o drefniannau newydd o ganeuon ac alawon gwerin a deunydd newydd, gwreiddiol. 

Mae'r bytholwyrdd Bob Delyn a'r Ebillion, dan arweiniad y bardd Twm Morys, yn dychwelyd i'r stiwdio recordio am y tro cyntaf ers wyth mlynedd, ac mae eu trac newydd o benillion hen a newydd, 'Y Gwynt', yn ein hatgoffa o'u trac poblogaidd iawn 'Ffair y Bala' gyda phibau Cymreig a drymiau, ac yn agoriad mwy na theilwng i'r albwm. Mae pedwarawd bluegrass Cymreig Taff Rapids o Gaerdydd yn cynnig fersiwn egnïol o'r ffefryn 'Moliannwn', gyda thro annisgwyl, tra bo'r ffurf hynafol o ganu cerdd dant, sef canu barddoniaeth i gyfeiliant telyn, i'w chlywed yng nghanu cytûn hudolus Pedair ar y trac 'Blodau'r Cwm'. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, mae cerddoriaeth arbrofol felodaidd ac atmosfferig y ddeuawd Peiriant ar y ffidil a'r gitâr drydan yn cadarnhau y gall 'cerddoriaeth werin' fod yn genre eang iawn, gyda chymaint o amrywiaeth o gerddoriaeth yn cyd-fynd yn naturiol ar yr un albwm. 

Mae'r offerynnwraig ddawnus Gwenifer Raymond yn perfformio trefniant newydd trawiadol o'r hen alaw emynau Gymreig, 'Llef', ac mae 'Mwyar Duon' gan The Gentle Good yn gyfansoddiad newydd hudolus gan y canwr-gyfansoddwr gwerin. Mae'r cantorion o fri Gwilym Bowen Rhys a Georgia Ruth wedi dewis dwy gân serch Gymraeg, wedi'u trefnu yn eu harddull ddiffuant eu hunain, ac mae cân wreiddiol Lleuwen Steffan, 'Haleliwia Newydd', (a gynhyrchwyd gan Rhys Edwards) wedi'i hysbrydoli gan ei hymchwil ddiweddar i hen emynau o'r traddodiad llafar Cymreig. 

Un o'r actau newydd ar yr albwm yw'r ddeuawd o chwiorydd Elin a Carys o Sir Drefaldwyn, sy'n dewis cyfrannu eu trefniant eu hunain o ffefryn gan y grŵp gwerin Plethyn, y bu eu tad, Jac Gittins, yn aelod allweddol ohono. Mae Irfan Rais, sy'n wreiddiol o Singapôr, yn dangos drwy ei ddehongliad swynol o 'Lliw Gwyn Rhosyn yr Haf' ei fod yr un mor ddawnus fel canwr a gitarydd, tra bo'r brodyr Liam a Sion Rickard, fel Lo-Fi Jones, yn cyfrannu egni ac angerdd yn eu cân 'Onnen', sydd wedi'i hysbrydoli gan gerddoriaeth werin a dawns. 

Mae 'Stafell Sbâr Sain: Tŷ Gwerin' yn sicr yn cynrychioli'r gorau o sîn werin Cymru heddiw ac, er ei fod yn rhoi rheswm i ni ddathlu, mae hefyd yn ein hatgoffa o draddodiad cryf y gorffennol a'r rhai a ysbrydolodd artistiaid heddiw i archwilio eu traddodiad, i'w hawlio'n eiddo iddynt ac, drwy bopeth, i ffynnu drwy eu dehongliad eu hunain o'u treftadaeth gerddorol.

Cynhelir sesiwn i ddathlu rhyddhau'r albwm yn Nhŷ Gwerin yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Wrecsam, nos Iau, Awst 7fed, gyda pherfformiadau gan The Gentle Good, Irfan Rais ac Elin a  Carys. 

Dyluniad clawr yr albwm: Sioned Medi Evans

Caiff y prosiect hwn ei ariannu'n rhannol gan Cymru Greadigol.

Traciau

1. Y Gwynt - BOB DELYN A'R EBILLION

2. Y Gwylliaid - ELIN A CARYS

3. Mwyar Duon - THE GENTLE GOOD

4. Haleliwia Newydd - LLEUWEN 

5. Moliannwn / Monroe’s Hornpipe - TAFF RAPIDS

6. Lliw Gwyn Rhosyn Yr Haf - IRFAN RAIS

7. Cân Peredur - PEIRIANT

8. Blodau’r Cwm - PEDAIR

9. Mi Fum Yn Gweini Tymor - GWILYM BOWEN RHYS

10. Llef - GWENIFER RAYMOND

11. Onnen - LO-FI JONES

12. Blodau’r Flwyddyn - GEORGIA RUTH WILLIAMS

Rydym yn pacio ac yn anfon rhoddion yn ofalus o’n siop lyfrau Gymraeg annibynnol yn Croesoswallt.

Mae llawer o roddion yn barod i’w hanfon ar unwaith, ond gall rhai eitemau fod dros dro ddim ar gael o bryd i’w gilydd.

Mae gwasanaeth clicio a chasglu hefyd ar gael o Siop Cwlwm.

Siop Cwlwm — eich siop lyfrau Gymraeg yn Croesoswallt ac ar-lein