Steffan Lloyd Owen - Adra’n Ôl

$18.00
Steffan Lloyd Owen - Adra’n Ôl

Steffan Lloyd Owen - Adra’n Ôl

$18.00

✔ In stock • Ready to dispatch

📦 Carefully packed and dispatched from our independent Welsh bookshop

🛍 Click & collect available from Siop Cwlwm in Oswestry

Disgrifiad

Mae Sain yn falch o ryddhau albwm cyntaf y bas-bariton Steffan Lloyd Owen. “Mae rhyddhau albwm gyda Sain yn fraint,” meddai Steffan, “ac felly hefyd recordio yn eu stiwdios, lle mae cymaint o’m harwyr cerddorol wedi recordio o’r blaen. Mae wedi bod yn her ond yn un bleserus iawn.” Ar ôl cwblhau ei astudiaethau cerddorol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol y Gogledd a dechrau ar yrfa fel unawdydd, mae gan Steffan eisoes nifer o glodau i’w enw, gan gynnwys dwy o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Gwobr Goffa Osborne Roberts a Ysgoloriaeth Towyn Roberts – yn ogystal â Bwrsariaeth Kathleen Ferrier. Mae hefyd wedi canu mewn operâu gydag Opera Cenedlaethol Cymru, ochr yn ochr â Bryn Terfel, ac wedi perfformio rhan deitl yn ‘Brundibar’.

Cynhyrchwyd yr albwm gan Osian Huw Williams, a gyfrannodd yn offerynnol at yr albwm hefyd, ynghyd ag Annette Bryn Parri ar y piano, Gruffydd Wyn yn canu, Dylan Cernyw ar y delyn a’r parti lleisiol Hogia Llanbobman. Mae’r albwm yn cynnwys amrywiaeth eang o genres cerddorol, ac mae’r caneuon yn mynd â ni ar daith o’r llawen i’r hiraethus, ac yna at y tyner a’r grymus, drwy weithiau gan Schubert a Rossini, ynghyd â ffefrynnau Cymreig gan gyfansoddwyr fel Gareth Glyn, Robat Arwyn ac R S Hughes. Teitl trac yr albwm yw fersiwn Gymraeg, gan Caryl Bryn, o’r gân ‘Homeward Bound’. Drwy ei berfformiad sicr a hyderus, ei ganu telynegol a theimladwy, a chyfoeth ac aeddfedrwydd ei lais, mae’r albwm hwn yn cadarnhau bod Steffan yn un o gantorion ifanc mwyaf trawiadol a dawnus Cymru.

Mae Steffan yn cysegru’r albwm hwn er cof am ei ddiweddar fam, Susan Jane Owen.

Rhestr traciau

01. Adra'n ôl

02. Rwy’n Credu

03. Litanei

04. Largo Al Factotum

05. Rwy’n Dy Garu Oherwydd

06. Yr Orrnest

07. Nacht Und Traume

08. Cerddaf Wrth Dy Ochr

09. Dy garu o Bell

10. Homeward Bound

11. Llanrwst

12. Somewhere (West Side Story) gyda Gruffydd Wyn

13. Y Dymestl.

Rydym yn pacio ac yn anfon rhoddion yn ofalus o’n siop lyfrau Gymraeg annibynnol yn Croesoswallt.

Mae llawer o roddion yn barod i’w hanfon ar unwaith, ond gall rhai eitemau fod dros dro ddim ar gael o bryd i’w gilydd.

Mae gwasanaeth clicio a chasglu hefyd ar gael o Siop Cwlwm.

Siop Cwlwm — eich siop lyfrau Gymraeg yn Croesoswallt ac ar-lein