📦 Wedi’i bacio'n ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol
🛍 Gallwch glicio a chasglu o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt
See allSee all
Dilyniant i'r nofel boblogaidd Mudferwi, a gyhoeddwyd yn 2019. Mae Alys yn byw ei breuddwyd yn rhedeg bwyty llwyddiannus yn Nyffryn Clwyd gyda'i chariad, Duncan. Ond pan gaiff Duncan gynnig mynd i ffilmio rhaglen deledu i Batagonia, mae'n gadael Alys ar ei phen ei hun i ymdopi â'r bwyty.
Awdur: Rebecca Roberts Cyhoeddwr: Gwasg Carreg Gwalch Nifer y tudalennau: 234 Fformat: Paperback | Clawr meddal Maint: 198x128 mm Iaith: Welsh | Cymraeg Dyddiad cyhoeddi:
Dosbarth:
Adult Fiction and Stories (in Welsh)
General and Literary Fiction (in Welsh)
Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.
Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a gafodd ei chyhoeddi yn Hydref 2020 gan Wasg Carreg Gwalch, ac mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.
Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn gynharach yn 2020.
Enillodd #Helynt Wobr Tir na n-Og 2021 a’i chynnwys ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021.
Fel arfer caiff archebion eu hanfon o fewn 1–3 diwrnod gwaith.
Efallai y bydd rhai llyfrau'n cael eu harchebu'n arbennig i chi gan gyflenwyr, sy'n gallu cymryd ychydig yn fwy o amser yn achlysurol. Os yw'n debygol y bydd oedi sylweddol, byddwn ni'n cysylltu â chi.
Bydd llyfrau i'w rhag-archebu yn cael eu hanfon unwaith y byddant wedi'u cyhoeddi ac ar gael gan gyflenwyr.
Gallwch glicio a chasglu eich archeb o Siop Cwlwm yng Nghroesoswallt.
Rydym yn pacio'r holl archebion yn ofalus yn ein siop Gymraeg annibynnol, ac yn ceisio anfon archebion cyn gynted â phosibl.