Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Archebwch erbyn 12 canol dydd ac anfonwn eich archeb ar y dyddiau hyn.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener.
Welsh Wedding gift guide

Canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig Priodasau

Mae'n hyfryd gweld cymaint yn cyhoeddi eu dyweddïad a chyplau hapus yn gallu trefnu eu Diwrnod Priodas arbennig.

Os ydych chi'n chwilio am gardiau ac anrhegion Cymraeg ar gyfer Priodas, rydych chi wedi cyrraedd y lle cywir yn Siop Cwlwm - y Gorau o'r Gororau!

Rydym wrth ein bodd yn gweithio â dylunwyr a gwneuthurwyr, rhai mawr a bach, i greu'r anrhegion Cymraeg perffaith ar gyfer pob achlysur, a dyma rai o'n hoff eitemau ar gyfer Priodas:

welsh engagements card and notebooks

Mae diwrnod perffaith yn golygu llawer o gynllunio ar y diwrnod perffaith.  Mae gennym lyfrau nodiadau hyfryd i'ch helpu i drefnu eich parti plu a'r briodas ei hun.  Peidiwch ag anghofio anfon cerdyn llongyfarchiadau Cymraeg i'r pâr sydd newydd ddyweddïo!

welsh wedding gifts including a lovespoon

Pan fydd cwsmeriaid yn gofyn am syniadau anrhegion Priodas Cymraeg, llwyau caru yw un o'r awgrymiadau mwyaf poblogaidd.  Mae llwyau pren wedi cael eu cerfio a'u rhoi fel arwyddion o gariad yng Nghymru ers llawer o ganrifoedd.  Gallwch barhau â'r traddodiad hyfryd hwn trwy roi llwy garu bersonol, unigrwy o'n casgliad o ddyluniadau.  Maent yn ymddangos fel eitemau i'w 'rhag-archebu' ar ein gwefan, oherwydd eu bod yn cael eu gwneud yn ôl archeb, ac fel arfer yn cymryd tuag wythnos i'w creu.

welsh wedding card and notebook with a decoration

Yn ogystal â'n hamrywiaeth anhygoel o gardiau Priodas Cymraeg, mae gennym lyfrau i'ch gwesteion lofnodi i'ch helpu i gofio eich diwrnod arbennig.  Beth am ychwanegu swyndlws hardd sy'n cynnwys cerdd Gymraeg adnabyddus sy'n aml yn cael ei darllen fel rhan o seremoni briodas.

welsh wedding cross stitch kit and card and decoration

Rydym wrth ein bodd â chroesbwyth, ac rydym yn falch iawn o'n detholiad o gitiau siartiau Cymraeg ar gyfer pob achlysur, gan gynnwys priodasau.

welsh cariad love cushion

Mae nwyddau i'r cartref yn anrhegion Priodas poblogaidd, ac mae clustogau yn berffaith!  Ymhlith syniadau eraill mae mygiau, canisters storio i'r gegin a fframiau ffotograff.

welsh chalkboard and wedding card

Beth am nwyddau eraill i'r cartref a fyddai'n ddelfrydol fel anrhegion Priodas Cymraeg fel ein byrddau sialc lliwgar a'n clociau Cymraeg arbennig.

welsh golden anniversary gifts and card

As well as Welsh gifts to celebrate and remember the wedding day itself, we also have plenty of Welsh gift ideas for wedding anniversaries, such as this Teulu Ni (Our Family) photo frame which would be ideal for a Golden Wedding, especially with a hand-made ceramic decoration and greetings card.

Hopefully our Welsh gift guide for Weddings has helped, but if you've got any questions at all, or would like some suggestions for Welsh Wedding day cards and gifts, please get in touch - we'd love to hear from you! 

Erthygl flaenorol Canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig Sul y Tadau

Gadael sylw

Mae'n rhaid cymeradwyo sylwadau cyn iddynt ymddangos

* Meysydd gofynnol