Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Archebwch erbyn 12 canol dydd ac anfonwn eich archeb ar y dyddiau hyn.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener.
Welsh gift guide for Mother's Day

Canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig ar gyfer Sul y Mamau

Eleni, bydd Sul y Mamau ar ddydd Sul 10fed Mawrth 2024.  Ydych chi'n chwilio am gerdyn ac anrhegion Cymraeg a Chymreig i'ch Mam, Nain neu Famgu?  Dyma'r cyfle perffaith i ddweud wrthi gymaint rydych yn ei charu, a dweud 'diolch'.

Os ydych chi'n chwilio am gardiau ac anrhegion Cymraeg ar gyfer Sul y Mamau, rydych chi wedi cyrraedd y lle cywir yn Siop Cwlwm - y Gorau o'r Gororau!

Rydym wrth ein bodd yn gweithio â dylunwyr a gwneuthurwyr, rhai mawr a bach, i greu'r anrhegion Cymraeg perffaith ar gyfer pob achlysur, a dyma rai o'n hoff eitemau ar gyfer Sul y Mamau...

Rhoi cardiau yw un o brif elfennau Sul y Mamau.  Mae gennym amrywiaeth eang o gardiau sy'n addas i bawb.

Mae llyfr bob amser yn anrheg wych, beth bynnag bo'r achlysur.  Mae gennym ddetholiad gwych a byddem yn hapus i'ch helpu i ddewis y llyfr ar gyfer Mam, Nain neu Famgu.

Mae'r rhain NEWYDD GYRRAEDD ac yn haeddu cael eu hychwanegu at y Ganllaw Anrhegion hon...

Mae'r 'casgliad botymau' yma'n cynnwyd cerdyn ar gyfer Mam Nain, â fframiau llun a thorchau allwedd sy'n cyd-fynd.  Rydym wrth ein bodd â'r torchau allwedd botwm bach yma, ac mae eu pris yn rhesymol iawn - dim ond £1.99 yr un!

Mae'r bagiau bach a matiau diod hyfryd yma newydd gyrraedd hefyd, â chardiau sy'n cyd-fynd. Perffaith ar gyfer Mam, Nain a Mamgu!

  

Clustogau yw un o'n syniadau anrheg mwyaf poblogaidd, ar hyd y flwyddyn. Mae'r clustog 'Mam' tlws yma, â phom-poms ar hyd ei ymylon, yn hyfryd, ac rydym wrth ein bodd â hi!

Mae casgliad newydd sbon o glustogau blodeuog, â chardiau ac anrhegion sy'n cyd-fynd, newydd gyrraedd.  Byddai'r rhain yn berffaith i Sul y Mamau:

Mae gemwaith bob amser yn dewis cywir fel anrheg, ac mae gennym freichledi Cymreig hyfryd ar gyfer Mam neu Nain i ddathlu Sul y Mamau.

Rydym wrth ein bodd â bagiau ac rydym wrth ein bodd â'r patrwm brethyn Cymreig, felly mae'r syniadau anrheg hyn yn gyfuniad perffaith.  Ein ffefryn yw'r bag cinio wedi'i inswleiddio, ond beth am gael y bag a phwrs sy'n cyd-fynd hefyd?

Mae casgliadau sy'n cyd-fynd yn gwneud bywyd yn haws, i'r cwsmer a'r siopwr.  Mae'r casgliad blodeuog 'Mam' hyfryd yma'n berffaith i Sul y Mamau, ond cofiwch amdano ar adeg y Nadolig a phenblwyddi hefyd.  Mae'r freichled uchod mewn bocs yn perthyn i'r casgliad hwn.

'Teulu' yw un o'r geiriau Cymraeg hynaf, ac mae ein casgliad 'Coeden Deulu' o anrhegion ac addurniadau ffantastig yn berffaith ar gyfer Sul y Mamau.

Yn y llun uchod, gallwch weld ein stop drws 'Teulu a'n clustog 'Teulu'.  Mae'r ddau'n cynnwys coeden fanwl â'r canghennau wedi'u siapio yn galon.

A yw'ch Mam, Nain neu Mamgu yn mwynhau garddio?  Os felly, byddai'r casgliad newydd hwn o anrhegion yn ffordd hyfryd o ddathlu Sul y Mamau a'i hoff hobi.  Mae gennym jwg, mwg, matiau diod ac addurniadau sy'n hongian:

Efallai nad blodau yw'r thema gywir ar gyfer eich cerdyn ac anrheg Sul y Mamau?  Peidiwch â phoeni oherwydd mae gennym gasgliad o eitemau du a gwyn hyfryd.  Mae'r dysglau Menyn, llwyau addurniadol, bowlenni Hyfryd a 'Cartref Hapus' jariau storio Cartref Hapus yn anrhegion perffaith i gyd-fynd â'r cerdyn trawiadol yma gan Draenog.

Rydym yn gobeithio bod ein canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig ar gyfer Sul y Mamau wedi helpu, ond oes bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech unrhyw awgrymiadau ar gyfer cardiau ac anrhegion Cymraeg a Chymreig, cysylltwch â ni - byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi

Erthygl flaenorol Canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig Sul y Tadau
Erthygl nesaf Canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig ar gyfer Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant

Gadael sylw

Mae'n rhaid cymeradwyo sylwadau cyn iddynt ymddangos

* Meysydd gofynnol