15fed Mehefin 2025

Canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig Sul y Tadau
Bydd Sul y Tadau ddydd Sul, 15fed Mehefin 2025, yn gyfle gwych i ddweud "diolch" - i'ch Tad, Taid, Tad-cu neu unrhyw un arall tadol yn eich bywyd.
Os ydych chi'n chwilio am gardiau ac anrhegion Cymraeg a Chymreig unigryw ar gyfer Sul y Tadau, Siop Cwlwm yw eich siop Gymraeg un-stop!
Rydym yn falch o weithio â dylunwyr a gwneuthurwyr dawnus o Gymru – mawr a bach – i ddarparu anrhegion meddylgar i chi ar gyfer pob achlysur. Dyma ein dewisiadau gorau ar gyfer y diwrnod arbennig hwn:
📝 Cardiau i bob Tad
Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl gan Siop Cwlwm, mae gennym amrywiaeth enfawr o Gardiau Sul y Tadau Cymraeg - o ddyluniadau o’r galon i rai doniol. Mae gan lawer o anrhegion sy’n cyfateb hefyd!
📚 Llyfrau a CDs
Yn chwilio am anrheg hamddenol? Porwch ein llyfrau Cymraeg diweddaraf ar gyfer oedolion neu ddewis o blith ein casgliad o CDs cerddoriaeth Gymraeg.
Gair i gall: Parwch eich llyfr o ddewis â Siocled Cymreig blasus i greu'r bwndel ymlaciol gorau!
📖 Dysgu Cymraeg
Ydy'ch Tad neu Daid yn dysgu Cymraeg – neu'n meddwl am wneud?
Mae gennym amrywiaeth gwych o lyfrau ac adnoddau i ddysgwyr Cymraeg, ynghyd ag anrhegion hwyliog fel sanau a chardiau sy'n gwneud bwndeli delfrydol.
🎁 Anrhegion Cymreig yn Arbennig i Dad
O fygiau a chlustogau i addurniadau, rydym wedi curadu setiau chwaethus o anrhegion â lliw llwyd i dawelu a dyluniadau bythol.
🧵 Patrwm Tapestri Cymreig
Rydyn ni'n caru'r patrwm tapestri Cymreig traddodiadol, yn enwedig â gogwydd modern!
Dewiswch o fenig ffwrn, matiau diod a chardiau– cyfuniad perffaith o dreftadaeth ac arddull gyfoes.
⚽ Cefnogwyr Pêl-droed
A yw’ch Tad yn dwlu ar bêl-droed? Neu a yw Tadcu wrth ei fodd â'r gêm brydferth?
Edrychwch ar ein llyfrau Cymraeg a Saesneg, bathodynnau, llyfrau nodiadau a chardiau– perffaith i'r cefnogwr pêl-droed yn eich bywyd.
🏉 Cefnogwyr Rygbi
Dathlwch gariad Dad at rygbi â chardiau, sanau a chylchoedd allweddi pren ar y thema - i gyd yn cynnwys motiffau rygbi hwyliog fel esgidiau lwcus!
🌄 Cariad Cynefin – Llyn Llanwddyn a Chroesoswallt
Dathlwch falchder lleol ag anrhegion sy'n cynnwys gwaith celf gwreiddiol o Lyn Llanwddyn neu fygiau a matiau diod sy’n arddangos Map Tanddaearol Croesoswallt dychmygus – delfrydol i'r rheiny sydd â gwreiddiau yn yr ardal.
🚙 Gyrwyr Land Rover
Mae Land Rovers yn boblogaidd iawn eleni!
Dewiswch o gardiau, mygiau a chylchoedd allweddi sy’n arddangos y cerbyd fferm eiconig hwn – ar gael mewn gwyrdd, glas neu goch!
💬 Angen Help i Ddewis?
Rydym yn gobeithio bod y canllaw anrhegion hon wedi eich ysbrydoli - ond os oes angen ychydig o help ychwanegol arnoch, neu dymunwch gael awgrymiadau personol, cysylltwch â ni.
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i'r Anrheg Sul y Tadau Cymreig perffaith!
Gadael sylw