Cysgodion Hen Greigiau
Description
Nid tawel yw'r gorffwys yng nghefn gwlad wrth i'r dirgelion ddod i'r wyneb. Haf tawel, poeth oedd hi i fod gyda phawb yn edrych ymlaen i'r gwyliau. Ond gyda newid sydyn i'r gwynt daeth difrod i'r tirlun o amgylch pentref bach Nantawen gan ddatgelu dirgelion sy'n mynnu atebion.
Unwaith eto mae'r awdur yn ein tywys a'r daith ar hyd lwybrau troellog cefn gwlad gan ddatgelu digwyddiadau anfad sydd yn dod i'r wyneb o'u hamgylch. Ond sut, pryd, a pham yw'r cwestiynau sydd angen atebion, ac mae rhai yng nghlwm yng nghysgodion hen greigiau yr arfordir.
Stori ddirgel arall sy'n datblygu yn raddol i achosi gofid a phryder i'r cymeriadau lleol ac yn eich sbarduno i droi'r dudalen
Details
Dosbarthu
Anfonwn bob archeb a dderbyniwyd 3 gwaith yr wythnos, ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener.
Sicrhewch eich bod yn archebu erbyn 12 canol dydd. Fel arall, efallai na fydd eich archeb yn cael ei hanfon tan y diwrnod gwaith nesaf (dydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener). Cysylltwch â ni os oes brys arnoch, byddwn yn gwneud ein gorau i'ch helpu.
Cynigiwn 'glicio a chasglu' am ddim ar gyfer cwsmeriaid yng Nghroesoswallt ar ddydd Llun, Mercher, Gwener a Sadwrn
Cynigiwn ddosbarthu economi am ddim ar gyfer archebion yn y DU dros £30
- Dosbarthu Economi - o £2.99, nod dosbarthu mewn 3-5 diwrnod gwaith, fel arfer Royal Mail Tracked 48.
- Dosbarthu Safonol - o £3.99, nod dosbarthu mewn 1-2 diwrnod gwaith, fel arfer Royal Mail Tracked 24.
- Dosbarthu Cyflym - o £5.99, nod dosbarth ar y diwrnod gwaith nesaf, fel arfer DPD Local / Parcelforce.
I gael manylion pellach, sgroliwch i lawr i'n tudalen 'Dosbarthu'. Cysylltwch â ni os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.