Neidio i gynnwys

Anfonwn archebion ar ddyddiau Llun, Mercher a Gwener. Archebwch erbyn 12 canol dydd ac anfonwn eich archeb ar y dyddiau hyn.

Anfonwn archebion d. Llun, Mercher, Gwener.

Ysgolion, Colegau a Chylchoedd Meithrin

Rydym yn mwynhau gweithio ag ysgolion, colegau a chylchoedd meithrin.  Dyma rai o'r gwasanaethau rydym yn eu cynnig:

Rhestrau dymuniadau

Darparwch restr o lyfrau yr hoffech a bydd pobl yn gallu eu harchebu trwy ein gwefan.  Byddwn yn dosbarthu'r llyfrau yn syth i'ch ysgol, am ddim!  Rydym yn hapus i helpu trwy ddarparu cyngor i ddatblygu eich rhestr ddymuniadau o lyfrau. 

Rhoddion

Rydym yn gwybod bod cyllidebau'n gyfyngedig ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio ag ysgolion, colegau a chylchoedd meithrin er mwyn i bob allu rhoi cyfraniad tuag at eich rhestr ddymuniadau o lyfrau.  Rydym yn cynnig rhodd £5 neu £10 yn safonol (gallwn newid y symiau os teimlwch y byddai symiau eraill yn well i chi).

Bydd Siop Cwlwm yn ychwanegu 10% o gyfanswm y rhoddion 

Archebion

Rydym yn darparu archebion llyfrau ar gyfer ysgolion, colegau a chylchoedd meithrin yn gyflym ac yn effeithlon, gan roi gostyngiad 10% a dosbarthu am ddim.

Gallwch dalu trwy anfoneb, a fydd yn daladwy 30 diwrnod ar ôl dosbarthu'r archeb.

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau o gwbl.