Neidio i gynnwys
Sgroliwch i waelod y sgrîn i newid yr iaith
Sgroliwch i waelod y sgrîn i newid yr iaith

Y Chwaer Hynaf:

Cyhoeddi cyfrol am hanes yr eisteddfod hynaf yng Nghymru

  • Teitl: Y Chwaer Hynaf – Hanes Eisteddfod Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys 1820-2020
  • Awdur: Huw Ceiriog
  • Dyddiad Cyhoeddi: Mehefin 2020

Mae Eisteddfod Powys yn hŷn na’r Eisteddfod Genedlaethol.  Yn y gyfrol newydd hon mae Huw Ceiriog, sy’n fardd cadeiriog a choronog ac yn gyn Dderwydd Gweinyddol Eisteddfod Powys, yn adrodd hanes lliwgar yr hen Eisteddfod hon inni; ac ni ellir ond edmygu cynheiliaid ‘Y Chwaer Hynaf’.

Y bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi’r llyfr hwn i ddathlu 200 mlynedd ers yr Eisteddfod Powys gyntaf, a gynhaliwyd yn Wrecsam ym 1820.  Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod, Rhosllannerchrugog byddai ei chartref yn 2020, gan ddychwelyd i’w hardal ‘enedigol’.  Ond gyda dyfodiad y Coronafeirws a’r clo mawr eleni, penderfynwyd gohirio Eisteddfod Powys Rhosllannerchrugog tan fis Gorffennaf 2021.  Yn y cyfamser, gallwch ail-fwynhau holl Eisteddfodau Powys y gorffennol ar dudalennau’r gyfrol newydd hon.

Mae’r gyfrol yn mynd â’r darllenydd yn ôl i’r canoloesoedd a rhanbarthau Powys Fadog a Phowys Wenwynwyn, a roddodd y dalgylch i’r ŵyl hon.  Ymlaen at wreiddiau’r Eisteddfod yn y 18fed ganrif a’i chyfarfod cyntaf yn Wrecsam ym 1820.  Parha’r awdur trwy ddisgrifio pob Eisteddfod Powys a gynhaliwyd, hyd at Ddyffryn Banw 2019 a pharatoadau Rhosllannerchrugog 2020, y bu’n rhaid ei hail-drefnu i 2021.

Bu nifer o enwogion yn gysylltiedig ag Eisteddfod Powys dros y blynyddoedd, a cheir sôn am Syr Watcyn Williams Wynn, Gwallter Mechain, Iolo Morgannwg, Ceiriog, Nansi Richards, Saunders Lewis, Ryan Davies, T Llew Jones, Pat O’Brien, Gerallt Lloyd Owen, Irma Chilton, Aled Lewis Evans... a hyd yn oed Garibaldi!

Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys casgliad enfawr o luniau sy’n adlewyrchu amrywiaeth lliwgar a chyfoethog testun y gyfrol.

Cyhoeddwyd y gyfrol o dan ofal Gwasg y Bwthyn ar ran Cymrodoriaeth Talaith a Chadair Powys.  Ei phris yw £10 ac mae ar werth mewn siopau llyfrau annibynnol yn nalgylch Eisteddfod Powys.  Gallwch archebu copi trwy’r post trwy ymweld â https://www.siopcwlwm.co.uk/products/y-chwaer-hynaf, cysylltwch â Lowri Roberts, Siop Cwlwm, am ragor o wybodaeth (e-bost post@siopcwlwm.co.uk neu ffôn 07814 033759).

Neu gallwch lwytho ffurflen archebu i lawr yma.

Ar y clawr gwelir ffotograff gan John Thomas o ‘Meriadog’, John Edwards a’i gadair, Meifod 1892.

Daw’r awdur Huw Ceiriog o Ddyffryn Ceiriog yn wreiddiol ond mae bellach yn byw yn Llandre, ger Aberystwyth.  Mae wedi rhoi oes o wasanaeth i Eisteddfod Talaith a Chadair Powys.  Mae’n gyn Dderwydd Gweinyddol yr Eisteddfod, ac wedi ennill y gadair a’r goron.  Bu’n gweithio yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac mae’n gyn llywydd Cymdeithas Carafanwyr Cymru a golygydd cylchgrawn y gymdeithas hon, ‘Y Nomad’.

Dyma gyfrol amhrisiadwy, sy’n gofnod pwysig o hanes, i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y ‘pethe’ yng nghanolbarth a gogledd ddwyrain Cymru, y gororau, a thu hwnt.