Mae ein Siop Nadolig ar agor!

Canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig ar gyfer Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant
Wyddoch chi bod gan Gymru ei fersiwn ei hun o Ddydd San Ffolant? Rydym yn dathlu Dydd Sant Dwynwen ar 25ain Ionawr bob blwyddyn ac mae'n gyfle i roi gwybod i rywun rydych chi caru wybod sut rydych chi'n teimlo, a hynny tair wythnos yn gynt na 14eg Chwefror!
Os ydych chi'n chwilio am gardiau ac anrhegion Cymraeg ar gyfer Dydd Sant Dwynwen neu Ddydd Sant Ffolant, rydych chi wedi cyrraedd y lle cywir yn Siop Cwlwm - y Gorau o'r Gororau!
Rydym wrth ein bodd yn gweithio â dylunwyr a gwneuthurwyr, rhai mawr a bach, i greu'r anrhegion Cymraeg perffaith ar gyfer pob achlysur, a dyma rai o'n hoff eitemau ar gyfer Dydd Sant Dwynwen a Dydd San Ffolant...
Ar gyfer y ddau achlygur, rhoi cardiau yw un o'r prif elfennau. Mae gennym amrywiaeth eang o gardiau sy'n addas i bawb.
Byddai'r ffrâm ffoto seramig 'Ti a Fi am byth' yma'n anrheg hyfryd a byddai'n edrych yn wych mewn unrhyw gartref.
Mae 'Calon Lân' yn emyn adnabyddus sydd â geiriau addas iawn i'r achlysur. Mae'r geriiau'n ymddangos ar nifer o'n hanrhegion a allai fod yn addas, gan gynnwys cloc a phrintiau.
Rydym yn gwybod pa mor boblogaidd y mae Goncs adeg y Nadolig, ond maen nhw hefyd yn ffordd hyfryd i ddathlu Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant. Rydym yn caru'r cardiau ac addurniadau hyn sy'n cyd-fynd!
Mae siocled bob amser yn anrheg boblogaidd, ac mae gennym amrywiaeth o siocledi Cymraeg wedi'u cynhyrchu'n lleol - mae'n siŵr y bydd blas sy'n addas i chi a'ch cariad.
Yn olaf, ond nid y lleiaf, edrychwn ymlaen at dderbyn y cardiau ac anrhegion prydferth hyn ar gyfer Dydd Santes Dwynwen gan Max Rocks, a ddylai gyrraedd yn gynnar wythnos nesaf! Mae yna gardiau, addurniadau pren ac addurniadau baner ar y ffordd, mewn digon o amser cyn y diwrnod mawr!.
Rydym yn gobeithio bod ein canllaw anrhegion Cymraeg a Chymreig ar gyfer Dydd Santes Dwynwen a Dydd San Ffolant wedi helpu, ond oes bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech unrhyw awgrymiadau ar gyfer cardiau ac anrhegion Cymraeg a Chymreig, cysylltwch â ni - byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Gadael sylw