Skip to content

We dispatch orders on Mondays, Wednesdays and Fridays. Please order by 12 noon for same day dispatch on these days.

Orders dispatched Mon, Wed & Fri.

Moroedd/Dŵr - Morgan Owen

Translation missing: en.product_price.price.original £5.00 - Translation missing: en.product_price.price.original £5.00
Translation missing: en.product_price.price.original
£5.00
£5.00 - £5.00
Translation missing: en.product_price.price.current £5.00
Quantity
Description

Enillydd Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth mewn Ieithoedd Celtaidd 2019

Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn lansio’r casgliad cyhoeddedig cyntaf o waith y bardd Morgan Owen yng Ngŵyl Arall, Caernarfon.

Mae moroedd/dŵr yn ddilyniant cysyniadol, ac fe ddaw o’r wasg fisoedd yn unig cyn cyhoeddi cyfrol gyntaf Morgan, Bedwen ar y Lloer.

Cerddi am foroedd yw y rhain, ond rhai oriog a chyfnewidiol, fel y profiadau maen nhw’n gyfrwng iddynt. Ble mae tynnu ffiniau rhwng moroedd? Pryd daw dŵr yn fôr? Yn yr un modd, pryd mae presenoldeb yn troi’n berthyn? Pryd daw dadrith yn benllanw? A phryd y daw diwedd yn ddechreuad?

O Ferthyr Tudful y daw Morgan Owen yn wreiddiol, ac mae stamp y lle hwnnw yn gryf ar lawer o waith. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau ‘Awduron wrth eu Gwaith’ Gŵyl y Gelli a ‘Her 100 Cerdd’ Llenyddiaeth Cymru. Bu’n fardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, ac yn Fardd y Mis Radio Cymru yn gynharach eleni.

Dyma adeg da felly i lywio casgliad o’i waith drwy’r wasg, ac mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o fod wedi cael y cyfle i gydweithio â’r bardd yn hyn o beth. Comisiynwyd yr artist Timna Cox i greu delweddau yn ymateb i'r cerddi, ac mae'r rhain yn ychwanegu ymhellach at naws y casgliad.

‘Roedd Morgan yn un o’r rhai a gyhoeddodd waith yn rhifyn cyntaf un cylchgrawn Y Stamp, yn ôl yng Ngwanwyn 2017,’ meddai Iestyn Tyne, un o olygyddion y pamffled; ‘mae’n braf meddwl rŵan ein bod ni mewn sefyllfa o allu dwyn pamffled o’i waith i sylw darllenwyr am y tro cyntaf.’

Details

 

Delivery

We dispatch all orders received 3 times a week, on Mondays, Wednesdays and Fridays. 

Please order by 12 noon, otherwise, your order may not be dispatched until the next working day (Monday, Wednesday or Friday). Please get in touch if your order is urgent, we will try our best to help you.

Free ‘click and collect’ for customers in Oswestry on Mondays, Wednesdays, Fridays and Saturdays.

Free economy delivery for UK orders over £50

    • Economy Delivery - from £2.49, delivery aim 3-5 working days, usually Royal Mail 48.
    • Standard Delivery - from £2.99, delivery aim 1-2 working days, usually Royal Mail 24.
    • Express Delivery - from £5.99, delivery aim next working day, usually DPD Local / Parcelforce.

    For further details, please scroll down to our 'Postage' page.  Please contact us if you have any questions at all.

    Reviews